Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:24, 19 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Glynllifon, yn ei ffurf wreiddiol fel y'i hadeiladwyd gan Edwrad Haycock

Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw Glynllifon. Saif ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499).

Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, ac hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1840-46, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safodd yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw gael ei adeiladu o gwmpas 1751, a bod yntau wedi cymryd lle annedd hŷn a oedd yn gartref i’r Glyniaid. Aeth y trydydd Arglwydd Newborough ati i ailadeiladu'r plasty wedi'r tân, gan weithredu i raddau helaeth fel y pensaer gwreiddiol. Cyflogwyd Edward Haycock, pensaer o Amwythig, i fireinio ei ddyluniadau.[1] Ar ol iddo gael ei helaethu trwy i Frederick George Wynn ychwanegu aden helaeth ar un ochr o'r tŷ yn yr 1890au, roedd 102 o ystafelloedd yn y tŷ.

Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Etifeddodd Thomas John Wynn Ystad Glynllifon wedi i'w ewythr, yr Anrh. Frederick George Wynn, farw ym 1932. Er iddo fyw am ran o'i amser ym mlasty Glynllifon, fe'i gwerthwyd ym 1949., nid cymaint am ei fod yn rhy fawr - er bod y plas yn cynnwys 102 o ystafelloedd - ond, a dyfynnu yr hyn a gynigiodd fel rheswm am y gwerthiant: "trethiant uchel ac achos fy mod i'n ei chael hi bron yn amhosibl i benodi staff."[2] Fe'i werthwyd yr eiddo i fasnachwyr coed o Drawsfynydd a aeth ati i gwympo llawer o'r coed prin aeddfed a blannwyd gan y teulu. Ailwerthwyd y plas a llawer o'r tir yn nechrau’r 50au i'r Cyngor Sir wedyn fel lleoliad newydd y coleg amaethyddol a fu gynt ym Mhlas Madryn, Pen Llŷn, ac mae’r plas a llawer o'r adeiladau eraill sydd ar hen dir y plasty bellach yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Mae’r tŷ ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu a’i throi'n westy moethus.

Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warcheidwad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty, a elwir heddiw yn Barc Glynllifon ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig a ddaeth rhai o’r hen deulu yn ôl i Landwrog pan oeddynt ar eu teithiau.

Ciperiaid

Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd John Thorman ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon.

Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn; Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  2. Gwefan Handed On: Being a random register of long-held private country houses not generally open to the public, Rhug, Denbighshire, [1], cyrchwyd 19.2.2021