Chwarel yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:08, 3 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel yr Eifl fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn.

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.

'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.

Mae'n bwysig nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!

Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :

  chwarel                        gwaith
  chwarelwyr                     dynion gwaith
  lôn y chwarel                  lôn gwaith
  swper chwarel                  bwyd gwaith
  caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
  corn chwarel                   corn gwaith
  offis (swyddfa)'r chwarel      offis y gwaith
  ponciau'r chwarel              ponciau'r gwaith
  i ben y chwarel                i ben gwaith
  mynydd y chwarel               mynydd gwaith

Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:

Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, Mr. Darbishire, Sais uniaith.

"And what can I do for you this morning, Tecwyn."

"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".

"What do you think this place is? A zoo?"

Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, John Emyr, brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw Mynydd Gwaith a Storïau Eraill".