John Emyr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae John Emyr (1950 -) yn nofelydd, awdur storïau byrion a beirniad llenyddol.

Treuliodd John Emyr ei blentyndod cynnar ym mhentref Trefor, lle roedd ei dad, Y Parch. Emyr Roberts, yn weinidog ar Eglwys Gosen, ond symudodd y teulu i'r Rhyl pan oedd John Emyr yn saith oed. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Glan Clwyd cyn mynd ymlaen i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ar ôl graddio aeth ymlaen i wneud gradd M.A. ar agweddau ar waith Kate Roberts, a chyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil yn ei gyfrol Enaid Clwyfus (1976). Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yna'n bennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Friars, Bangor, cyn dod yn Olygydd Cyffredinol y Ganolfan Astudiaethau Iaith, a agorodd ym Mangor ym 1988. Yn ddiweddarach bu'n gweithio fel Prif Olygydd Cofnod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bellach mae wedi ymddeol ac yn byw yng Nghaerdydd gyda'i briod, Gwen. Yn ogystal â'i ymdriniaeth ar Kate Roberts, mae wedi cyhoeddi nofel Terfysg Haf (1979) a chyfrolau o straeon byrion. Mae llawer o'r deunydd yn y gyfrol Mynydd Gwaith(1984) wedi'i seilio ar ei blentyndod yn Nhrefor, pan oedd y chwarel ithfaen yn parhau'n gyflogwr pwysig yn yr ardal. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o storïau, Golau trwy Gwmwl.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol