Elernion (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:02, 29 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Elernion, a fu am ganrifoedd yn drefgordd bwysig a chanolbwynt yr ardal, mewn pant dymunol a chysgodol ar lan Afon Tâl ar gyrion pentref Trefor.

Y drefgordd ganoloesol

Ceir y cyfeiriad cyntaf at Elernion yn y ddogfen Record of Caernarvon 1352 - gweler y cyfieithiad Cymraeg Stent (neu arolwg) 1352 o'r adran yn ymwneud ag Elernion isod. Bryd hynny roedd yn drefgordd (township) gyffelyb i drefgorddau Cymreig eraill yr Oesoedd Canol ac yn sicr roedd wedi bodoli yn y ffurf honno ers blynyddoedd maith cyn arolwg 1352. Roedd yn cynnwys "gwely" rhydd (gwely yn yr ystyr hwn oedd yr hen uned "lwythol" Gymreig o ddaliadaeth tir) ac roedd y gwely hwn ym meddiant nifer o fân rydd-ddeiliaid yr oedd arnynt rai tollau i'r Tywysog. A'r Tywysog hwnnw ym 1352 oedd mab hynaf brenin Lloegr, sef Edward, a elwid y Tywysog Du. Roedd y mân rydd-ddeiliaid hyn hefyd yn berchen ar ddwy felin yn nhrefgordd Elernion. Nododd yr arolygwyr a luniodd y Record fod rhai o'r rhydd-ddeiliaid hyn hefyd wedi fforffedu eu tir i'r Tywysog am gyflawni rhyw droseddau neu'i gilydd nas enwir. Beth bynnag, nodir fod peth o'r tir yn y gwely rhydd yn dir escheat- sef wedi'i fforffedu. Ond er mai rhydd-ddeiliaid oedd mwyafrif trigolion y drefgordd, roedd yno beth tir caeth a weithid gan daeogion, a oedd hefyd yn eiddo i'r Tywysog. O fewn y drefgordd yn ogystal roedd darn o rostir agored - y Ffridd Fawr - a oedd hefyd yn eiddo i'r Tywysog. Yn ganolbwynt i'r drefgordd roedd tŷ neuadd canoloesol, a safai mae'n fwy na thebyg lle mae'r tŷ presennol. Byddai'r tir o amgylch y plasdy yn dir agored bron i gyd ac yma ac acw ceid bythynnod bychain lle trigai'r rhydd-ddeiliaid a'u teuluoedd. Byddai gan y rhydd-ddeiliaid hyn leiniau hirion o dir bob un i'w aredig a'i drin - a cheir atgof o'r dull hwn o amaethu o hyd yn enw fferm Lleiniau Hirion gerllaw Elernion. Roedd yn gymdeithas ddigon cyntefig yn ei hanfod a bron yn gwbl hunangynhaliol gydag ychydig iawn o newid yn digwydd o un genhedlaeth i'r llall.

Mae'n debyg fod yr holl rydd-ddeiliaid yn y drefgordd ym 1352 yn perthyn i'w gilydd ac yn aelodau o'r llwyth a ddisgynnai o sefydlydd y "gwely" yn Elernion. Yn y Record gelwir y gwely rhydd yn "gwely Cynddelw ap Llowarch". Ef mae'n debyg oedd y cyntaf i ymsefydlu'n barhaol ar y tir gyda'r tir yn cael ei rannu ymysg ei ddisgynyddion yn unol â'r drefn Gymreig. Mae'n amhosib pennu pryd yn union yr ymsefydlodd Cynddelw yno ond mae'n debygol i'w dylwyth fod yno am rai canrifoedd cyn y Record of Caernarvon ym 1352.

Hanes diweddarach

Am ganrifoedd parhaodd trefgordd Elernion i weithredu fel hyn, ond erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ac yn arbennig ar ôl pasio'r Deddfau Uno (a oedd yn uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr) yn y 1530au, roedd newidiadau mawr yn digwydd yn y drefn ddaliadaeth tir yng Nghymru gyda'r hen arfer o rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng y meibion yn dod i ben a'i disodli gan drefn lle roedd y mab hynaf yn etifeddu'r cyfan. Roedd hwn hefyd yn gyfnod pan oedd y stadau mawr yn dechrau ymffurfio. Felly hefyd yn hanes Elernion, pryd y gwelwyd y mân ddaliadau tir o fewn y drefgordd yn cael eu prynu, neu eu meddiannu, gan deuluoedd a oedd yn dod i amlygrwydd yn y gymdogaeth. Erbyn canol y 16g roedd darnau cynyddol o dir yn Elernion a'r cyffiniau yn dod i feddiant Glyniaid Glynllifon a Phlas Newydd ac roedd ymgiprys cynyddol rhyngddynt â'r rhydd-ddeiliaid wrth i'r rheini weld y teulu pwerus yma'n bygwth eu buddiannau. Daliodd rhai o'r rhydd-ddeiliaid eu gafael ar eu mân ddaliadau am flynyddoedd ond yn y bôn roedd y frwydr hon yn erbyn yr ysweiniaid tiriog cefnog hyn yn un na allent ei hennill mewn gwirionedd. Fodd bynnag, ceir gwrit dyddiedig 18 Gorffenaf 1548 yn galw ar reithgor arbennig o gymdogaeth Elernion i ddod gerbron yr Ustus Heddwch lleol i ystyried achos fod Robert ap William ap Ieuan ap Tudur o Elernion, iwmon, ac eraill, wedi meddiannu darn o dir a elwid yn Erw Pwll March yn Elernion, a oedd yn eiddo i William Glyn o Lynllifon. Drachefn, bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, ceir cofnod yn nogfennau Llys y Chwarter Sesiwn yn honni fod Rhys ap Ieuan ap Madog, ynghyd â deuddeg o ddynion eraill, yn bennaf o Elernion, wedi ymgynnull yn anghyfreithlon yng Nghlynnog ar 5 Ionawr 1563 ac wedi ymosod ar ddyn y credir ei fod yn un o weision Glynllifon. Ar 15 Rhagfyr yr un flwyddyn wedyn fe wnaeth llafurwr o Elernion dorri i mewn i dŷ yng Nghlynnog a dwyn dau bwys o ddefnydd gwerth deg ceiniog. Fe'i dygwyd gerbron y Llys Chwarter a'i ddedfrydu i dreulio cyfnod yn y rhigod (pillory) gyda'i glust wedi'i hoelio i'r pren.

Parhaodd Elernion i gael ei disgrifio fel "trefgordd" yng nghofnodion swyddogol Sir Gaernarfon mor ddiweddar â'r ail ganrif ar bymtheg, er ei bod wedi colli nodweddion trefgordd Gymreig bron yn llwyr erbyn hynny ac wedi troi'n fferm fawr neu stad fechan mewn gwirionedd. Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd Glyniaid Glynllifon a Bryn Gwydion a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â William Glynn o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.

Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd Ellen Glynn, a sefydlodd yr elusendai yn Llandwrog sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu Richard Nanney, rheithor Clynnog a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o felinau'r hen drefgordd), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. [1]

Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.

Manylion Stent 1352

Mae Stent 1352 yn ddiddorol gan ei fod yn disgrifio holl diroedd y tywysog Seisnig (sef mab brenin Lloegr); fodd bynnag, gan fod cyfraith y tir yn dal fel yr oedd dan ein Tywysogion ni, ceir darlun o drefniant tir, threthi a'r gymdeithas yn gyffredinol yn ystod Canol Oesoedd, trefgordd wrth drefgordd.

Dyma gyfieithiad gweddol rydd o'r adran sydd yn ymdrin â threfgordd Elernion:

ELERNION
Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn Gwely Hoedelew ap Llywarch. A’r etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c.
Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c.
Ac mae ganddynt dwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn  ac amobr  fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd  o dir siêd  a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig  sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 16s. 8c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c.
Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c.
Cyfanswm blynyddol: 20c.
Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod.
Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.

Mae nifer o dermau technegol yn y darn yma. Dyma esbonio rhai ohonynt:

Ebediw oedd y ddirwy a dalwyd gan etifedd i’r arglwydd wrth iddo gymryd ei etifeddiaeth. Gobrestyn oedd y ffi oedd yn daladwy am gael yr etifeddiaeth i dir lle nad oedd yr etifedd yn ddisgynnydd uniongyrchol. Amobr oedd y ddirwy a godwyd gan yr arglwydd, yn dechnegol, pan oedd merch yn colli ei gwyryfdod, sef wrth iddi briodi neu ar adegau eraill priodol., Bufedd (bovate yn Saesneg) oedd yn fesur o dir sydd yn gyfateb i’r hen erw Gymreig, sef tua 4 acer heddiw. Tir siêd oedd tir a oedd wedi cael ei fforffedu; (estreat yn Saesneg).

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.12-16. Seiliwyd llawer o'r sylwadau uchod ar wybodaeth am Elernion (yn Saesneg) a anfonwyd at Mr a Mrs Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor gan W. Ogwen Williams, cyn archifydd Sir Gaernarfon a darlithydd yng Nholeg y Brifysgol, Aberystwyth; gweler hefyd, Colin A. Gresham, Eifionydd, (Caerdydd, 1973), t.134.