Tal-y-mignedd Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Y sawl a ddilynnai Owen Jones oedd Hugh Jones, Tal-y-mignedd Isaf, ond nid yw'n eglur ai perthyn i'w gilydd oeddynt. Hanai Hugh JOnes o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd. Trwy'r gŵr hwnnw y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog [[Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon]]. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, [[Llanaelhaearn]]. Fe'u sefydlwyd ar fferm Tal-y-mignedd Isaf, ac fe gawsant un mab, sef Hugh Jones arall.  
Y sawl a ddilynnai Owen Jones oedd Hugh Jones, Tal-y-mignedd Isaf, ond nid yw'n eglur ai perthyn i'w gilydd oeddynt. Hanai Hugh JOnes o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd. Trwy'r gŵr hwnnw y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog [[Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon]]. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, [[Llanaelhaearn]]. Fe'u sefydlwyd ar fferm Tal-y-mignedd Isaf, ac fe gawsant un mab, sef Hugh Jones arall.  
   
   
Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn [[Capel Drwys-y-coed (A)|achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed]], ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier [[Ystad y Faenol]] am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd, a chludodd y deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth [[W A Darbyshire]], [[Plas Baladeulyn]], goruchwyliwr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].<ref>Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn ''Baladeulyn Ddoe a Heddiw'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]</ref>
Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn [[Capel Drwys-y-coed (A)|achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed]], ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier [[Ystad y Faenol]] am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd - gan fod â Saesneg bur dda (oherwydd ei arhosiad ym mhanama yn ôl pob tebyg). Fe hefyd a gludodd llawer o'r deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth [[W A Darbyshire]], [[Plas Baladeulyn]], goruchwyliwr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]]. Byddai hyd yn oed yn cynnig pás i rai yn y trol am geiniog y tro, gyda'r elw'n mynd at gostau'r adeiladu.<ref>Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn ''Baladeulyn Ddoe a Heddiw'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]; gwybodaeth gan aelodau o'r teulu</ref>
 
Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded i'r capel yn [[Drws-y-coed|Nrwsycoed]], pellter o ryw filltir. Ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel. 




   
   
Pan chwalwyd HEN  Gapel (A) Drwsycoed.
 
Yr Hugh Jones welir yma aeth  i Stad y Faenol i ofyn am les ar dir er mwyn codi Capel Newydd, roedd ganddo saesneg pur dda  ac yn Fathamategydd.
Bu ar un adeg yn gweithio ar y Panama Canal..galwai rhai o yn Hugh Jones Panama..
Aeth ati rhag blaen i symud cerrig a chael cerrig a'i cludo yn ei drol i godi'r Capel Newydd.
Gan gynnig lift i rai am geiniog y tro yn y drol  gyda'r elw yn mynd at y Capel.
Dioddefai o wrth y crydcymalau ac yn rhy llesg i gerdded i'r Capel yn Nrwsycoed,
Ac ar adegau  powliai fy nhad a'i frawd yr hen Wron yn y ferfa i'r Capel  oedd gryn bellter o Dalymignedd.
   
   
   
   

Fersiwn yn ôl 19:37, 18 Rhagfyr 2020

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du.

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]

Y sawl a ddilynnai Owen Jones oedd Hugh Jones, Tal-y-mignedd Isaf, ond nid yw'n eglur ai perthyn i'w gilydd oeddynt. Hanai Hugh JOnes o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd. Trwy'r gŵr hwnnw y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, Llanaelhaearn. Fe'u sefydlwyd ar fferm Tal-y-mignedd Isaf, ac fe gawsant un mab, sef Hugh Jones arall.

Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier Ystad y Faenol am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd - gan fod â Saesneg bur dda (oherwydd ei arhosiad ym mhanama yn ôl pob tebyg). Fe hefyd a gludodd llawer o'r deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W A Darbyshire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd. Byddai hyd yn oed yn cynnig pás i rai yn y trol am geiniog y tro, gyda'r elw'n mynd at gostau'r adeiladu.[2]

Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded i'r capel yn Nrwsycoed, pellter o ryw filltir. Ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel.





Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]; gwybodaeth gan aelodau o'r teulu