Tal-y-mignedd Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Tal-y-mignedd Isaf''' yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf [[Dyffryn Nantlle]] gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol [[Cwm Ffynnon]] a [[Mynydd Tal-y-mignedd]]. Mae fferm [[Drws-y-coed]] i'r dwyrain a fferm [[Ffridd]] neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae [[Afon Craig-las]] yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i [[Richard Garnons]], fel rhan o [[Ystad Pant Du]].
Mae '''Tal-y-mignedd Isaf''' yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf [[Dyffryn Nantlle]] gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol [[Cwm Ffynnon]] a [[Mynydd Tal-y-mignedd]]. Mae fferm [[Drws-y-coed]] i'r dwyrain a fferm [[Ffridd]] neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae [[Afon Craig-las]] yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.
 
Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i [[Richard Garnons]] arall, fel rhan o [[Ystad Pant Du]].  
 
Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.  

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.<ref>LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4550238#?cv=27&h=1213&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4550238%2Fmanifest.json&xywh=-26%2C-46%2C1264%2C640]</ref>   

Dichon mai mab i Owen Jones oedd Hugh Jones, Talymignedd Isaf, un oedd yn flaenllaw iawn yn [[Capel Drwys-y-ceod (A)|achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed]], yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd yn 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r amgylchiad difrifol hwn ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel yn 1836. Rhaid rhoddi teyrnged o ddiolchgarwch a chlod i Hugh Jones am deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i ymofyn coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth [[W A Darbyshire]], [[Plas Baladeulyn]], goruchwyliwr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].
 
Mae perchenogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog [[Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon]].
   
Fersiwn yn ôl 18:46, 18 Rhagfyr 2020

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du.

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]

Dichon mai mab i Owen Jones oedd Hugh Jones, Talymignedd Isaf, un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd yn 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r amgylchiad difrifol hwn ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel yn 1836. Rhaid rhoddi teyrnged o ddiolchgarwch a chlod i Hugh Jones am deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i ymofyn coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W A Darbyshire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd.

Mae perchenogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon.

Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]