Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. | '''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. | ||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== | ||
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai | Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo. | ||
Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar | Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748. | ||
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda''yn dalfyriad o'r enw hwnnw). | Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda''yn dalfyriad o'r enw hwnnw). | ||
==Tai pwysig ac enwogion== | ==Tai pwysig ac enwogion== | ||
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai [[Plas Dinas]], [[Plas Bodaden]], [[Plas-yn-Bont]] a'r [[Pengwern]]. | |||
==Y pentref== | ==Y pentref== |
Fersiwn yn ôl 11:12, 4 Rhagfyr 2017
Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf.
Ffiniau a thirwedd
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal Belan o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth ger Trwyn Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i ddarn o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.
Yr eglwys a'i sant
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.
Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwndayn dalfyriad o'r enw hwnnw).
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai Plas Dinas, Plas Bodaden, Plas-yn-Bont a'r Pengwern.