Express Motors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Fe briododd Myfanwy, un o ferchaid Owen Wyn Owen, â gŵr o'r Groeslon, Robert Hughes Jones, Bryn Golau, a gymerodd y busnes drosodd. Ar lafar Bysus Robin Huw oedd enw'r cwmni,ond Express Motors yn swyddogol.<ref>Dogfennau teulu drwy law gor wyres Owen Wyn Owen</ref> | Fe briododd Myfanwy, un o ferchaid Owen Wyn Owen, â gŵr o'r Groeslon, Robert Hughes Jones, Bryn Golau, a gymerodd y busnes drosodd. Ar lafar Bysus Robin Huw oedd enw'r cwmni,ond Express Motors yn swyddogol.<ref>Dogfennau teulu drwy law gor wyres Owen Wyn Owen</ref> | ||
Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad [[Y Fron]] yn y lle cyntaf, oedd '''Express Motors''', a hynny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe alwyd y bysiau hyn yn "fysus Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef [[Moduron Seren Arian]] neu "Silver Star" yn ystod y 1970au. | Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad [[Y Fron]] yn y lle cyntaf, oedd '''Express Motors''', a hynny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe alwyd y bysiau hyn yn "fysus Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef [[Moduron Seren Arian]] neu "Silver Star" yn ystod y 1970au. | ||
Llinell 25: | Llinell 22: | ||
Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni [[Arriva]] ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni [[Arriva]] ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017, wedi i'r Comisiynydd Traffig atal eu trwydded. | Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017, wedi i'r Comisiynydd Traffig atal eu trwydded. Wedi hynny, erlynwyd yu perchnogion am dwyll, a chawsant ddedfrydau sylweddol o garchar. Chwalwyd y garej ym Mhen-y-groes fis Tachwedd 2020, a'r bwriad yw codi canolfan iechyd ar y safle. Erbyn hyn, [[Bysiau Dilwyn]] a [[Bysiau Gwynfor]] o Ynys Môn sydd wedi ymgymryd â'r rhan fwyaf o'u gwasanaethau. | ||
[http://www.expressmotors.co.uk] express motors | [http://www.expressmotors.co.uk] express motors |
Fersiwn yn ôl 20:40, 1 Rhagfyr 2020
Cwmni a ddarparai wasanaethau bws yn ardal Uwchgwyrfai a tu hwnt oedd Express Motors.
Owen Wyn Owen
Gweithio yn y chwarel oedd Owen Wyn Owen, ac yn byw yng Nhae Gwyn Rhostryfan. Fe ofynnodd am ganiatâd fynd i ddysgu gyrru Ar ôl cael ei drwydded, fe brynodd fws, a gyrhaeddodd ar y trên i Bwllheli yn 1908. Ei daith gyntaf oedd mynd â chriw cerbydau, ac i ffwrdd i Lundain yr aeth. Capel Bedyddwyr Cricieth, am drip dros fwlch Llanberis, pan gyrhaeddodd y bws Gaernarfon, fe'u croesawyd ar y Maes yng Nghaernarfon gan neb llai na David Lloyd George.
Motor Mawr Cae Gwyn
Ar lafar Motor Mawr Cae Gwyn oedd enw ar gwmni y bws. (Mwy o wybodaeth i ddod)
Bysus Robin Huw
Fe briododd Myfanwy, un o ferchaid Owen Wyn Owen, â gŵr o'r Groeslon, Robert Hughes Jones, Bryn Golau, a gymerodd y busnes drosodd. Ar lafar Bysus Robin Huw oedd enw'r cwmni,ond Express Motors yn swyddogol.[1]
Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad Y Fron yn y lle cyntaf, oedd Express Motors, a hynny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe alwyd y bysiau hyn yn "fysus Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef Moduron Seren Arian neu "Silver Star" yn ystod y 1970au.
Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagos megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) mor bell ag Aberystwyth, Llanrwst, Llandudno, Porthmadog a'r Bermo. Yn 2010, prynwyd pedwar llwybr taith ("route") Seren Arian a arweiniai at ehangu pellach. Erbyn 2012, roedd y cwmni'n rhedeg 25 o fysiau a 15 o goetsys.[2]
Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.[3]
Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017, wedi i'r Comisiynydd Traffig atal eu trwydded. Wedi hynny, erlynwyd yu perchnogion am dwyll, a chawsant ddedfrydau sylweddol o garchar. Chwalwyd y garej ym Mhen-y-groes fis Tachwedd 2020, a'r bwriad yw codi canolfan iechyd ar y safle. Erbyn hyn, Bysiau Dilwyn a Bysiau Gwynfor o Ynys Môn sydd wedi ymgymryd â'r rhan fwyaf o'u gwasanaethau.
[1] express motors
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma