George Twisleton (iau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd George Twisleton (iau)(1652-1714) yn fab ac etifedd i [[George Twisleton]] (1618-67), swyddog ym myddin y Senedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a Mari Glynn, merch William Glynn, [[Lleuar Fawr]] yn ardal Brynaerau. (Gweler yr erthygl ar George Twistleton (y tad) yn '''Cof y Cwmwd'''.)  
Roedd George Twisleton (iau)(1652-1714) yn fab ac etifedd i [[George Twisleton]] (1618-67), swyddog ym myddin y Senedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a Mari Glynn, merch William Glynn, [[Lleuar Fawr]] yn ardal Brynaerau. (Gweler yr erthygl ar George Twistleton (y tad) yn '''Cof y Cwmwd'''.)  


Ganed George Twisleton (iau) ym 1652 a bu farw ym 1714. Priododd ef i mewn i un o hen deuluoedd bonheddig Llŷn, sef â Margaret, a oedd yn ferch i William Gruffydd, plas Cefn Amwlch, Tudweiliog - teulu a oedd wedi ymsefydlu yno ers rhai cenedlaethau. (Ganol y ddeunawfed ganrif daeth gwraig Cefn Amlwch, sef Sydney Gruffydd, a oedd wedi priodi â William Gruffydd arall o'r plasdy hwnnw, i gryn amlygrwydd pan ddechreuodd ganlyn y diwygiwr Methodistaidd Howel Harris o gwmpas y wlad a dod yn rhan o'r 'teulu' yr oedd wedi ei sefydlu yn ei gartref yn Nhrefeca Fach. Ond stori arall ydi honno, ac mae'n mynd â ni tu hwnt i ffiniau cwmwd [[Uwchgwyrfa]]i.) Bu George Twisleton yn ustus heddwch yn [[Sir Gaernarfon]] ac yn siryf dros y sir ym 1682-83. Bu farw ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 1714. Dilynwyd ef yn Lleuar Fawr gan ei fab, George Twisleton arall (y trydydd). Aeth hwnnw dipyn pellach na Llŷn i chwilio am wraig gan briodi â Saesnes o Lundain, Barbara Jackson. Bu ef farw'n ddyn cymharol ifanc ar 22 Rhagfyr 1732. Gyda'i farwolaeth, aeth y stad i ddwylo ei ferch, Mary, a briododd â milwr, sef y Capten William Ridsdale o Ripon yn Swydd Efrog - sef yr un sir ag yr hanai ei hen daid hithau, y George Twisleton cyntaf, ohoni. Wedi gwerthu'r stad i [[Syr Thomas Wynn]], [[Glynllifon]], lladdwyd y capten ym mrwydr Dettingen ym 1743 (un o frwydrau mawr Rhyfel yr Olyniaeth Awstriaidd ar gyfandir Ewrop), a daeth llinach Glyniaid y Lleuar i ben. <ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain, 1953), t.930. (Cyfraniad gan un o haneswyr amlycaf cwmwd Uwchgwyrfai, Gilbert Williams, Rhostryfan.)</ref>
Ganed George Twisleton (iau) ym 1652 a bu farw ym 1714. Priododd ef i mewn i un o hen deuluoedd bonheddig Llŷn, sef â Margaret, a oedd yn ferch i William Gruffydd, plas Cefn Amwlch, Tudweiliog - teulu a oedd wedi ymsefydlu yno ers rhai cenedlaethau. (Ganol y ddeunawfed ganrif daeth gwraig Cefn Amlwch, sef Sydney Gruffydd, a oedd wedi priodi â William Gruffydd arall o'r plasdy hwnnw, i gryn amlygrwydd pan ddechreuodd ganlyn y diwygiwr Methodistaidd Howel Harris o gwmpas y wlad a dod yn rhan o'r 'teulu' yr oedd wedi ei sefydlu yn ei gartref yn Nhrefeca Fach. Ond stori arall ydi honno, ac mae'n mynd â ni tu hwnt i ffiniau cwmwd [[Uwchgwyrfa]]i.) Bu George Twisleton yn ustus heddwch yn [[Sir Gaernarfon]] ac yn siryf dros y sir ym 1682-83. Bu farw ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 1714. Dilynwyd ef yn Lleuar Fawr gan ei fab, George Twisleton arall (y trydydd). Aeth hwnnw dipyn pellach na Llŷn i chwilio am wraig gan briodi â Saesnes o Lundain, Barbara Jackson. Bu ef farw'n ddyn cymharol ifanc ar 22 Rhagfyr 1732. Gyda'i farwolaeth, aeth y stad i ddwylo ei ferch, Mary, a briododd â milwr, sef y Capten William Ridsdale o Ripon yn Swydd Efrog - sef yr un sir ag yr hanai ei hen daid hithau, y George Twisleton cyntaf, ohoni. Wedi gwerthu'r stad i Syr [[Thomas Wynn, Barwnig 1af|Thomas Wynn]], [[Glynllifon]], lladdwyd y capten ym mrwydr Dettingen ym 1743 (un o frwydrau mawr Rhyfel yr Olyniaeth Awstriaidd ar gyfandir Ewrop), a daeth llinach Glyniaid y Lleuar i ben. <ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain, 1953), t.930. (Cyfraniad gan un o haneswyr amlycaf cwmwd Uwchgwyrfai, Gilbert Williams, Rhostryfan.)</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 19:46, 26 Tachwedd 2020

Roedd George Twisleton (iau)(1652-1714) yn fab ac etifedd i George Twisleton (1618-67), swyddog ym myddin y Senedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a Mari Glynn, merch William Glynn, Lleuar Fawr yn ardal Brynaerau. (Gweler yr erthygl ar George Twistleton (y tad) yn Cof y Cwmwd.)

Ganed George Twisleton (iau) ym 1652 a bu farw ym 1714. Priododd ef i mewn i un o hen deuluoedd bonheddig Llŷn, sef â Margaret, a oedd yn ferch i William Gruffydd, plas Cefn Amwlch, Tudweiliog - teulu a oedd wedi ymsefydlu yno ers rhai cenedlaethau. (Ganol y ddeunawfed ganrif daeth gwraig Cefn Amlwch, sef Sydney Gruffydd, a oedd wedi priodi â William Gruffydd arall o'r plasdy hwnnw, i gryn amlygrwydd pan ddechreuodd ganlyn y diwygiwr Methodistaidd Howel Harris o gwmpas y wlad a dod yn rhan o'r 'teulu' yr oedd wedi ei sefydlu yn ei gartref yn Nhrefeca Fach. Ond stori arall ydi honno, ac mae'n mynd â ni tu hwnt i ffiniau cwmwd Uwchgwyrfai.) Bu George Twisleton yn ustus heddwch yn Sir Gaernarfon ac yn siryf dros y sir ym 1682-83. Bu farw ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 1714. Dilynwyd ef yn Lleuar Fawr gan ei fab, George Twisleton arall (y trydydd). Aeth hwnnw dipyn pellach na Llŷn i chwilio am wraig gan briodi â Saesnes o Lundain, Barbara Jackson. Bu ef farw'n ddyn cymharol ifanc ar 22 Rhagfyr 1732. Gyda'i farwolaeth, aeth y stad i ddwylo ei ferch, Mary, a briododd â milwr, sef y Capten William Ridsdale o Ripon yn Swydd Efrog - sef yr un sir ag yr hanai ei hen daid hithau, y George Twisleton cyntaf, ohoni. Wedi gwerthu'r stad i Syr Thomas Wynn, Glynllifon, lladdwyd y capten ym mrwydr Dettingen ym 1743 (un o frwydrau mawr Rhyfel yr Olyniaeth Awstriaidd ar gyfandir Ewrop), a daeth llinach Glyniaid y Lleuar i ben. [1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain, 1953), t.930. (Cyfraniad gan un o haneswyr amlycaf cwmwd Uwchgwyrfai, Gilbert Williams, Rhostryfan.)