Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. | Mae '''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. | ||
==Ffiniau== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal [[Belan]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]] a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr. | |||
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth ger [[Trwyn Abermenai]], morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is. | |||
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i ddarn o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr. | |||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== |
Fersiwn yn ôl 20:25, 30 Tachwedd 2017
Mae Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai.
Ffiniau a thirwedd
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal Belan o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth ger Trwyn Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i ddarn o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.