Melin Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ym 1865, ceir sôn am '''Felin Newydd''' yn llyfr rhent plwyf Clynnog Fawr. O'i safle yn y rhestr, dichon mai ger Tŷ'n Twll a Thŷn-y-coed (i'r dwyra...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Melinau]] | [[Categori:Melinau]] |
Fersiwn yn ôl 10:37, 13 Hydref 2020
Ym 1865, ceir sôn am Felin Newydd yn llyfr rhent plwyf Clynnog Fawr. O'i safle yn y rhestr, dichon mai ger Tŷ'n Twll a Thŷn-y-coed (i'r dwyrain o'r ffordd fawr ac i'r gogledd o bentref Clynnog) oedd hi'n sefyll, er nad oes arwydd ar fap Ordnans 1888 fod melin wedi bod yno. Mae'r map yn dangos dau bwll ger adeiladau fferm Tŷ'n-y coed, fodd bynnag, a gallai'r rhain fod wedi bod yn gysylltiedig ag olwyn dŵr neu felin.
Ceir sôn am Felin Clynnog nad yw ei lleoliad yn hysbys ym 1674, fel rhan o eiddo ystad Lleuar Fawr. Tybed ai'r un oedd y ddwy felin.
Beth bynnag am hynny, ym 1865, David Williams oedd y perchennog ond ni restrir tenant iddi. Gall hyn olygu fod y felin eisoes wedi cau, neu ei bod erbyn hynny yn adeilad a ddefnyddid at ddibenion eraill.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865