John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, ''Yr Helygen Gam'', ac yntau'n 91 oed. | Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, ''Yr Helygen Gam'', ac yntau'n 91 oed. | ||
Bu'n ffrind agos i'r Dr. [[John Gwilym Jones]]. Tua diwedd ei oes, bu [[Arthur Wyn Parry]] yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yn symud i gartref gofal yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | Bu'n ffrind agos i'r Dr. [[John Gwilym Jones]]. Tua diwedd ei oes, bu [[Arthur Wyn Parry]] yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yn symud i gartref gofal Gwynfa yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram gan Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"!<ref>''Daily Post'', 21.7.2016 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/national-eisteddfod-icon-turned-down-11314333]</ref> | Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram gan Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"!<ref>''Daily Post'', 21.7.2016 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/national-eisteddfod-icon-turned-down-11314333]</ref> |
Fersiwn yn ôl 08:32, 5 Medi 2020
John Roberts (1916 - 2016), a fu fyw am y rhan fwyaf o'i oes yn Y Groeslon, oedd trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1959 a 1979. Fe'i ganwyd yn Lerpwl, ond oherwydd iechyd bregus ei fam bu'n byw gyda'i nain yn Llangian hyd nes iddo fod yn 7 oed, a chyfrifai ei hun felly'n un o Ben Llŷn. Bu'n gweithio gyda chwmni o beirianwyr sifil yn Lerpwl, ac wedyn ym Môn ac Arfon. Ar ôl cyfnod fel gweithiwr fferm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe raddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe er mwyn gweithio ym maes gwasanaethau ieuenctid. Bu'n gweithio i'r Urdd am ddeng mlynedd yn Llanelli a Chaernarfon cyn cael swydd fel Gweinyddwr Coleg Glynllifon. Ym 1959, cychwynnodd ar gyfnod o 20 mlynedd fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]
Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, Yr Helygen Gam, ac yntau'n 91 oed.
Bu'n ffrind agos i'r Dr. John Gwilym Jones. Tua diwedd ei oes, bu Arthur Wyn Parry yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yn symud i gartref gofal Gwynfa yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.[2]
Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram gan Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"![3]