Y Degwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
a, PAN BASI
Llinell 1: Llinell 1:
'''Y Degwm''' oedd enw'r nwyddau neu (yn ddiweddarach) yr ardreth a godwyd ar bob ffermwr, mawr a bach. Ei bwrpas gwreiddiol oedd helpu cynnal yr eglwys a'r esgobaeth leol, ac reodd yn weithredol hyd yn oed yn ystod Oes y Tywysogion, a'r egwyddor (yn seiliedig ar yr Ysgrythur) oedd i bobl roi degfed ran o'u cynnyrch i Dduw. Gyda dyladwad y Normaniaid ar ôl 1066, daeth yr Eglwys yn fwyfwy awyddus i droi rhodion ar ffurf nwyddau'n arian parod, er mwyn arbed gorfod casglu ynghyd ac wedyn gwerthu anifeiliaid a chnydau amrywiol - er na phylodd yr arfer tan yn hwyr: mae Stryd Ysgubor y Degwm yng Nghaernarfon yn ein hatgoffa o'r ysguboriau eang a godwyd i gadw cynnyrch o'r fath hyd at yr 1840au mewn llawer i le.
'''Y Degwm''' oedd enw'r nwyddau neu (yn ddiweddarach) yr ardreth a godwyd ar bob ffermwr, mawr a bach.  
 
==Hanes y Degwm yn fras==
 
Pwrpas gwreiddiol y Degwm oedd helpu cynnal yr offeiriad, yr eglwys a'r esgobaeth leol, ac reodd yn weithredol hyd yn oed yn ystod Oes y Tywysogion, a'r egwyddor (yn seiliedig ar hanes Moses a Jacob yn y Beibl) oedd i bobl roi degfed ran o'u cynnyrch i Dduw. Gyda dyladwad y Normaniaid ar ôl 1066, daeth yr Eglwys yn fwyfwy awyddus i droi degwm ar ffurf nwyddau'n arian parod, er mwyn arbed gorfod casglu ynghyd ac wedyn gwerthu anifeiliaid a chnydau amrywiol - er na phylodd yr arfer o gasglu cynnyrch tan yn hwyr: mae Stryd Ysgubor y Degwm yng Nghaernarfon yn ein hatgoffa o'r ysguboriau eang a godwyd i gadw cynnyrch o'r fath hyd at yr 1840au mewn llawer i le.
 
Roedd problemau'n parhau hyd yn oed lle 'roedd cyflwyno degfed ran o gynnyrch wedi hen droi'n rent degwm, gan fod rhenti felly'n aml wedi eu sefydlogi heb ystyried effeithiau chwyddiant dros y blynyddoedd. Pasiwyd deddf i droi pob taliad neu nwyddau degwm yn daliad wedi'i seilio ar faint o dir oedd gan y sawl a oedd yn ffermio a phris grawn.<ref>Davbid Hey (gol.), ''The Oxford Companion to Local and Family History'', (Rhydychen, 1996), t.440</ref>
 
Mae cofnod wedi goroesi o'r arian degwm a gasglwyd yn [[Uwchgwyrfai]] tua chanol y 14g. Erbyn hynny, gan fod offeiriaid [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi dod yn gyfrifol am freintiau eglwysi Uwchgwyrfai i gyd, roedd holl degwm (heblaw am y degwm a gesglid, mae'n debyg, ar diroedd [[Abaty Aberconwy]] yn y cwmwd) yn cael ei hel, mae'n ymddangos, ar ffurf arian. Isod ceir cyfieithiad o'i werth, ac i bwy ymysg offeiriaid Clynnog yr oedd yn daladwy. Cyfansymiau yw'r rhain; mae'n biti nad yw'r gwerth a ddeuai o bob fferm wedi ei nodi! Nodwyd y manylion fesul deoniaeth, sef yn yr achos hwn, [[Arfon]].
 
Yn Uwchgwyrfai, gyda phresenoldeb [[Clas ac Abaty Sant Beuno|sefydliad colegol Sant Beuno]] yng Nghlynnog Fawr, aeth y Degwm i'r sefydliad hwnnw a'i offeiriaid cydgyfranogol (''portioners'' yn Saesneg) tan 1536. y pryd hynny, gan y bernid mai ffurf o abaty neu eglwys golegol oedd yno, ac nid eglwys plwyfol yn unig, ducpwyd y buddiannau oddi arni, gan eu rhoi neu eu gwerthu i sefydliadau neu unigolion dylanwadol a ddaeth yn "rheithoriaid lleyg" ac iddyn nhw y telid y degwm yn aml wedi hynny. Ei dyletswydd hwythau oefdd cyflogi ficer neu gurad i weinidogaethu lle y derbyniwyd y degwm ohono. Dichon fod hyn wedi digwydd mewn rhannau helaeth o Uwchgwyrfai.  


Mae cofnod wedi goroesi o'r arian degwm a gasglwyd yn [[Uwchgwyrfai]] tua chanol y 14g. Erbyn hynny, gan fod offeiriaid [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi dod yn gyfrifol am freintiau eglwysi Uwchgwyrfai i gyd, roedd holl degwm (heblaw am y degwm a gesglid, mae'n debyg, ar diroedd [[Abaty Aberconwy]] yn y cwmwd) yn cael ei hel, mae'n ymddangos, ar ffurf arian. Isod ceir cyfieithiad o'i werth, ac i bwy ymysg offeiriaid Cynnog yr oedd yn daladwy. Cyfansymiau yw'r rhain; mae'n biti nad yw'r gwerth a ddeuai o bob fferm wedi ei nodi! Nodwyd y manylion fesul deoniaeth, sef yn yr achos hwn, [[Arfon]].


==Y Degwm yn y 14eg ganrif==
==Y Degwm yn y 14eg ganrif==
Llinell 21: Llinell 30:


Fe welir o'r uchod, ae dros p[um deg dau swllt o'r cyfanswm o 64 swllt yn y ddeoniaeth yn mynd i gynnal Eglwys Clynnog a'i hoffeiriadon.
Fe welir o'r uchod, ae dros p[um deg dau swllt o'r cyfanswm o 64 swllt yn y ddeoniaeth yn mynd i gynnal Eglwys Clynnog a'i hoffeiriadon.
==Gwrthwynebiad i dalu'r Degwm==
Ni fu neb eruioed yn hoff o dalu trethi, ond gyda thŵf Anghydffurfiaeth o ganol y 18g. ymlaen, tyfodd gwrthwynebiad cryf ymysg y rhan fwyaf o'r boblogaeth i dalu trethi nes ffrwydro yn yr 1860au'n "Rhyfel y Degwm" pan wrthododd rai anghydffurfwyr â thalu'r degwm. Canlyniad hyn oedd i'r eglwys neu'r rheithor lleyg anfon beiliaid i atafaelu eiddo hyd at swm y ddyled oedd gan y gwrthodwr. Nid oes hanes o gynnwrf cyffredinol yn Uwchgwyrfai, ond eto, roedd y gwrthwynebu a'r atafaelu'n digwydd yr un fath. Ceir cofnod o [[Melin Forgan|Felin Forgan]] tua 1890 pan oedd beiliaid wedi galw:

Fersiwn yn ôl 12:49, 13 Gorffennaf 2020

Y Degwm oedd enw'r nwyddau neu (yn ddiweddarach) yr ardreth a godwyd ar bob ffermwr, mawr a bach.

Hanes y Degwm yn fras

Pwrpas gwreiddiol y Degwm oedd helpu cynnal yr offeiriad, yr eglwys a'r esgobaeth leol, ac reodd yn weithredol hyd yn oed yn ystod Oes y Tywysogion, a'r egwyddor (yn seiliedig ar hanes Moses a Jacob yn y Beibl) oedd i bobl roi degfed ran o'u cynnyrch i Dduw. Gyda dyladwad y Normaniaid ar ôl 1066, daeth yr Eglwys yn fwyfwy awyddus i droi degwm ar ffurf nwyddau'n arian parod, er mwyn arbed gorfod casglu ynghyd ac wedyn gwerthu anifeiliaid a chnydau amrywiol - er na phylodd yr arfer o gasglu cynnyrch tan yn hwyr: mae Stryd Ysgubor y Degwm yng Nghaernarfon yn ein hatgoffa o'r ysguboriau eang a godwyd i gadw cynnyrch o'r fath hyd at yr 1840au mewn llawer i le.

Roedd problemau'n parhau hyd yn oed lle 'roedd cyflwyno degfed ran o gynnyrch wedi hen droi'n rent degwm, gan fod rhenti felly'n aml wedi eu sefydlogi heb ystyried effeithiau chwyddiant dros y blynyddoedd. Pasiwyd deddf i droi pob taliad neu nwyddau degwm yn daliad wedi'i seilio ar faint o dir oedd gan y sawl a oedd yn ffermio a phris grawn.[1]

Mae cofnod wedi goroesi o'r arian degwm a gasglwyd yn Uwchgwyrfai tua chanol y 14g. Erbyn hynny, gan fod offeiriaid Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi dod yn gyfrifol am freintiau eglwysi Uwchgwyrfai i gyd, roedd holl degwm (heblaw am y degwm a gesglid, mae'n debyg, ar diroedd Abaty Aberconwy yn y cwmwd) yn cael ei hel, mae'n ymddangos, ar ffurf arian. Isod ceir cyfieithiad o'i werth, ac i bwy ymysg offeiriaid Clynnog yr oedd yn daladwy. Cyfansymiau yw'r rhain; mae'n biti nad yw'r gwerth a ddeuai o bob fferm wedi ei nodi! Nodwyd y manylion fesul deoniaeth, sef yn yr achos hwn, Arfon.

Yn Uwchgwyrfai, gyda phresenoldeb sefydliad colegol Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr, aeth y Degwm i'r sefydliad hwnnw a'i offeiriaid cydgyfranogol (portioners yn Saesneg) tan 1536. y pryd hynny, gan y bernid mai ffurf o abaty neu eglwys golegol oedd yno, ac nid eglwys plwyfol yn unig, ducpwyd y buddiannau oddi arni, gan eu rhoi neu eu gwerthu i sefydliadau neu unigolion dylanwadol a ddaeth yn "rheithoriaid lleyg" ac iddyn nhw y telid y degwm yn aml wedi hynny. Ei dyletswydd hwythau oefdd cyflogi ficer neu gurad i weinidogaethu lle y derbyniwyd y degwm ohono. Dichon fod hyn wedi digwydd mewn rhannau helaeth o Uwchgwyrfai.


Y Degwm yn y 14eg ganrif

Dylid nodi mai cyfieithiad bras yw'r isod. Os ydych am ei ddyfynnu mewn gwaith academaidd, byddai'n ddoeth wirio'r cyfieithiad yn erbyn y Lladin wreiddiol. Mae copi printiedig yn Archifdy Caernarfon.[2]

Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.
Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr	9½ marc	12s. 8c.
Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd	8 marc	10s. 8c.
Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod	7 marc	9s. 4c.
Eglwys Llanbeblig	8½ marc	11s. 4c.

Cyfanswm: £32  Y degwm yn deillio o hyn: 64s

Mae'r swm cyntaf yn manylion yn cyfeirio at werth yr holl gynnyrch yn ol prisiad neu asesiad, a'r ail, degymiad neu ddegfed ran o hynny. Roedd "marc" gyfwerth â 13s. 4c.

Fe welir o'r uchod, ae dros p[um deg dau swllt o'r cyfanswm o 64 swllt yn y ddeoniaeth yn mynd i gynnal Eglwys Clynnog a'i hoffeiriadon.


Gwrthwynebiad i dalu'r Degwm

Ni fu neb eruioed yn hoff o dalu trethi, ond gyda thŵf Anghydffurfiaeth o ganol y 18g. ymlaen, tyfodd gwrthwynebiad cryf ymysg y rhan fwyaf o'r boblogaeth i dalu trethi nes ffrwydro yn yr 1860au'n "Rhyfel y Degwm" pan wrthododd rai anghydffurfwyr â thalu'r degwm. Canlyniad hyn oedd i'r eglwys neu'r rheithor lleyg anfon beiliaid i atafaelu eiddo hyd at swm y ddyled oedd gan y gwrthodwr. Nid oes hanes o gynnwrf cyffredinol yn Uwchgwyrfai, ond eto, roedd y gwrthwynebu a'r atafaelu'n digwydd yr un fath. Ceir cofnod o Felin Forgan tua 1890 pan oedd beiliaid wedi galw:

  1. Davbid Hey (gol.), The Oxford Companion to Local and Family History, (Rhydychen, 1996), t.440
  2. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7