Capel Tal-y-sarn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw '''Capel Tal-y-sarn (MC)'''. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. | Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw '''Capel Tal-y-sarn (MC)'''.<ref>Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygfl wreiddiol yma yw Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211</ref>. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. | ||
==Agoriad a'r capel cyntaf== | |||
Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|gapel Llanllyfni]]. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth. | Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|gapel Llanllyfni]]. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth. | ||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau [[Dyffryn Nantlle]]. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel. | Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau [[Dyffryn Nantlle]]. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel. | ||
==Yr ail gapel== | |||
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis [[Tal-y-mignedd]], ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel [[Cloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'. | Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis [[Tal-y-mignedd]], ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel [[Cloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'. | ||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
:::::::::::::William Owen, Hafodlas | :::::::::::::William Owen, Hafodlas | ||
Yn ystod y 1850au a 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth leihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond erys yr aelodaeth yn 220 erbyn 1868. | |||
==Canghennau== | |||
Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal [[Y Fron]] i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Cesarea]], ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y [[Cilgwyn]] trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn [[Capel Cilgwyn (A)]] gapel i'r Annibynwyr. | Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal [[Y Fron]] i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Cesarea]], ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y [[Cilgwyn]] trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn [[Capel Cilgwyn (A)]] gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, [[Capel Baladeulyn (MC), Nantlle|Baladeulyn]] yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]]. | ||
==Ysgol ddyddiol y capel== | |||
Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyefr cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor [[Ysgol Tal-y-sarn|ysgol bwrdd]] yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a apwyntiwyd gan yr eglwys yn ei redeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion. | |||
==Blaenoriaid== | |||
Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn [[Llanllyfni]] yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor. | Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn [[Llanllyfni]] yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor. | ||
==John Jones Talysarn== | |||
Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes [[John Jones, Tal-y-sarn]], gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr. | Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes [[John Jones, Tal-y-sarn]], gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr. |
Fersiwn yn ôl 17:46, 5 Ebrill 2020
Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw Capel Tal-y-sarn (MC).[1]. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll.
Agoriad a'r capel cyntaf
Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth.
Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel.
Yr ail gapel
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis Tal-y-mignedd, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel Cloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.
Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:
- Wele ein capel newydd - hylaw
- Helaeth a chelfydd.
- Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
- Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd."
- William Hughes, Tŷn y werglodd
- Wele ein capel newydd - hylaw
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
- a chynnal ddysgeidiaeth,
- A lle'r addoli ddaeth
- Digon i'r holl gymdogaeth."
- William Owen, Hafodlas
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
Yn ystod y 1850au a 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth leihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond erys yr aelodaeth yn 220 erbyn 1868.
Canghennau
Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn Capel Cilgwyn (A) gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, Baladeulyn yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen yn Nhan'rallt.
Ysgol ddyddiol y capel
Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyefr cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor ysgol bwrdd yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a apwyntiwyd gan yr eglwys yn ei redeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion.
Blaenoriaid
Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor.
John Jones Talysarn
Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.
Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygfl wreiddiol yma yw Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211