Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Capel Uchaf''', capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref [[Clynnog Fawr]] ar hyd lôn [[Pant-glas]] wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef [[Capel Uchaf]]. | Mae '''Capel Uchaf''', capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref [[Clynnog Fawr]] ar hyd lôn [[Pant-glas]] wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef [[Capel Uchaf]]. | ||
Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Dyma oedd y capel cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yn Arfon, wedi i'r achos gael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn nhŷ y Berth-ddu Bach tua 1747, wedi ymweliad gan | Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Dyma oedd y capel cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yn Arfon, wedi i'r achos gael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn nhŷ y Berth-ddu Bach, tŷ Dafydd ap Rhisiart Dafydd, un o'r rhai a effeithid gan bregethu Howell Harris tua 1747, wedi ymweliad gan hwnnw â'r plwyf, a chyda chefnogaeth ddistaw y person, [[Richard Nanney]], offeiriad a oedd â chryn gydymdeimlad â'r credo Methodistaidd cynnar. Nid oedd perchennog Berth-ddu Bach a meistr Dafydd ap Rhisiart yn un o'r Methodistiaid cynnar ei hun, ond roedd ganddo ddigon o gydymdeimlad i ganiatáu'r gweithgaredd. Wedi hyn, bu gwasanaethau hefyd yn nhŷ o enw Tŷ'nlôn gerllaw safle'r capel a godwyd wedyn, ac a elwid yn Gapel Uchaf. Y ddau fan cwrdd hyn oedd gwreiddiau y Capel Uchaf. Fodd bynnag, dim ond pan agorwyd [[Capel Brynaerau (MC)]], hefyd ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], dechreuodd yr arfer o alw'r gapel yn "Capel Uchaf".<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.19-21</ref> Ail adeiladwyd y capel ym 1811 a thrachefn ym 1870. Fe'i gaewyd fis Chwefror 2001. | ||
Bu [[Richard Roberts]], (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf. | Bu [[Richard Roberts]], (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf. |
Fersiwn yn ôl 09:49, 23 Mawrth 2020
Mae Capel Uchaf, capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref Clynnog Fawr ar hyd lôn Pant-glas wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef Capel Uchaf.
Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Dyma oedd y capel cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yn Arfon, wedi i'r achos gael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn nhŷ y Berth-ddu Bach, tŷ Dafydd ap Rhisiart Dafydd, un o'r rhai a effeithid gan bregethu Howell Harris tua 1747, wedi ymweliad gan hwnnw â'r plwyf, a chyda chefnogaeth ddistaw y person, Richard Nanney, offeiriad a oedd â chryn gydymdeimlad â'r credo Methodistaidd cynnar. Nid oedd perchennog Berth-ddu Bach a meistr Dafydd ap Rhisiart yn un o'r Methodistiaid cynnar ei hun, ond roedd ganddo ddigon o gydymdeimlad i ganiatáu'r gweithgaredd. Wedi hyn, bu gwasanaethau hefyd yn nhŷ o enw Tŷ'nlôn gerllaw safle'r capel a godwyd wedyn, ac a elwid yn Gapel Uchaf. Y ddau fan cwrdd hyn oedd gwreiddiau y Capel Uchaf. Fodd bynnag, dim ond pan agorwyd Capel Brynaerau (MC), hefyd ym mhlwyf Clynnog Fawr, dechreuodd yr arfer o alw'r gapel yn "Capel Uchaf".[1] Ail adeiladwyd y capel ym 1811 a thrachefn ym 1870. Fe'i gaewyd fis Chwefror 2001.
Bu Richard Roberts, (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.19-21