Porth Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: Y Borth, Clynnog c.1890.jpg|bawd|400px|de|Y Borth, Clynnog, c1890]] | [[Delwedd: Y Borth, Clynnog c.1890.jpg|bawd|400px|de|Y Borth, Clynnog, c1890]] | ||
Roedd '''Porth Clynnog''' yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â [[Gored Beuno]], craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r wahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Mae'r ddwy heb eu henwi ar fap 1900.<ref>Mapiau Ordnans 6", 1888 a 1900</ref> | Roedd '''Porth Clynnog''' yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â [[Gored Beuno]], craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r wahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Mae'r ddwy heb eu henwi ar fap 1900.<ref>Mapiau Ordnans 6", 1888 a 1900</ref> Erbyn diwedd cyfnod yr odynnau, beth bynnag, meddid nad oedd y lanfa ger y Borth yn hawdd, ac felly deuai'r glo o [[Aberdesach]], lle 'roedd glo'n cael ei lanio mor ddiweddar â 1903.<ref>Wicipedia, Erthygl ar Pontlyfni, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Pontllyfni], cyrchwyd 27.02.2020</ref> | ||
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â [[Clas Beuno|chlas Beuno]] ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i [[Clynnog Fawr|Glynnog]] o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> | Mae'n bur debyg fod cysylltiad â [[Clas Beuno|chlas Beuno]] ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i [[Clynnog Fawr|Glynnog]] o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> |
Fersiwn yn ôl 12:59, 27 Chwefror 2020
Roedd Porth Clynnog yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â Gored Beuno, craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r wahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Mae'r ddwy heb eu henwi ar fap 1900.[1] Erbyn diwedd cyfnod yr odynnau, beth bynnag, meddid nad oedd y lanfa ger y Borth yn hawdd, ac felly deuai'r glo o Aberdesach, lle 'roedd glo'n cael ei lanio mor ddiweddar â 1903.[2]
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[3]
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[4]
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[5]
Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno.