Porth Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd '''Porth Clynnog''' yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g.
Roedd '''Porth Clynnog''' yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g.


Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref>
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â [[Clas Beuno|chlas Beuno]] ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i [[Clynnog Fawr|Glynnog]] o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref>


Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref>   
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr [[Ifor Williams]] yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref>   


Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, [[Gurn Goch]], yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, [[Gurn Goch]], yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.


Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y [[Slŵp y "Nancy"|''Nancy']]', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref>
Nodir yn llyfr [[David Thomas]] hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y [[Slŵp y "Nancy"|''Nancy']]', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref>


Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno.
Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno.

Fersiwn yn ôl 11:36, 24 Chwefror 2020

Y Borth, Clynnog, c1890

Roedd Porth Clynnog yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g.

Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[1]

Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[2]

Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.

Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[3]

Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno.

Cyfeiriadau

  1. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.
  2. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.35
  3. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206