Pont Tafarn-faig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pont Tafarn-faig''' yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol [[Uwchgwyrfai]] ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'n croesi Afon Faig<ref>yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywyddd enwog ''Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach''</ref>sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag [[Afon Dwyfach]] gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua decharu'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i [[Nasareth]] dros yr un afon.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888. Bu farw Robert ap Gwilym Ddu yn 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ''ewyngroch'' yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu  - ''Yfwn fir o'r Afon Faig'' meddai.</ref>
Mae '''Pont Tafarn-faig''' yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol [[Uwchgwyrfai]] ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'n croesi Afon Faig<ref>yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd enwog ''Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach''</ref>sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag [[Afon Dwyfach]] gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua dechrau'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i [[Nasareth]] dros yr un afon.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888.</ref> Bu farw Robert ap Gwilym Ddu yn 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ''ewyngroch'' yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu  - ''Yfwn fir o'r Afon Faig'' meddai.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:58, 22 Tachwedd 2019

Mae Pont Tafarn-faig yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol Uwchgwyrfai ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Mae'n croesi Afon Faig[1]sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag Afon Dwyfach gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua dechrau'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i Nasareth dros yr un afon.[2] Bu farw Robert ap Gwilym Ddu yn 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ewyngroch yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu - Yfwn fir o'r Afon Faig meddai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd enwog Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888.