William Glynn (Y Sarsiant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen William Glynn ("Y Sarsiant") i William Glynn (Y Sarsiant) heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Glynn''' a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn fab i Robert ap Meredydd a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon. Trwy ei briodas â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glynniaid [[Lleuar Fawr]], [[Clynnog Fawr]].<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GLYN-LLI-0850], cyrchwyd 19.10.2019</ref>  
Roedd '''William Glynn''' a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn unig fab i [[Robert ap Meredydd]] (m.1509) a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon (er i Robert ap Meredydd gael pedwar mab a merch gyda'i wraig gyntaf, Elin Bulkeley).<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), tt.67-8</ref>
 
Fel un na chafodd gymaint o etifeddiaeth o ran tiroedd â'i frodyr hŷn (a etifeddodd [[Glynllifon]], [[Plas Newydd]] a thiroedd Nantlle), aeth ati i geisio hel ystad yn nhrefgordd [[Bodellog]], a thrwy hynny fynd i helynt gyda theulu'r [[Pengwern]] a hawliai'r un tir. Aflwyddiannus bu ei ymdrechion, fodd bynnag, a threuliodd ei amser i raddau'n gwasanaethu brenin Lloegr, Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd [[W. Gilbert Williams]], roedd ei hanner-frodyr Rhisiart ac Edmwnd "yn llawer mwy defnyddiol i'w gwlad".<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), t.78</ref>
 
Priododd William ap Robert (fel y'i adnabuwyd ar ddechrau ei fywyd nes iddo fabwysiadu cyfenw'r teulu, sef Glyn neu Glynn) â merch Ceidwad Castell Biwmares, Syr Roland Velville. Ar farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, aeth ati gyda'r weddw Arglwyddes Velville, i geisio swydd ceidwad y castell ond fe drechwyd gan Syr Richard Bulkeley. Dichon mai gwobr gysur oedd iddo dderbyn swydd Stiward cwmwd Menai, gyda chyflog blynyddol o £5. Cyrchai'n aml i Lundain ac erbyn 1537, os nad cynt, roedd wedi dyfod yn sarsiant-wrth-arfau ac aelod o gorfflu'r brenin. Ymddengys, eto yn ôl Gilbert Williams, na fu'n ymwneud fawr dim â'i sir enedigol na'i diwylliant; ni cheir cywyddau yn ei foli fel y cafodd lawer o'i gyfoedion bonheddig, a dim ond un, sef ''Marwnad William ap Robert Amhrydedd sef Sersiant Glyn''. Foidd bynnag, ymfalchiai ei ddisgynyddion yn ei hanes a'i theitl, gan arddel y teitl "Y Sarsiant" ym mhob achres. Yn fwy na hynny, am bob cenhedlaeth nes i etifeddes derfynol y llinach, [[Mary Glynn]], â [[George Twisleton]] yn ystod y 1650au.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), tt.79-82</ref>
 
Cafodd fab, [[William Glynn (Lleuar)|William Glynn]], a thrwy briodas hwnnw â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glynniaid [[Lleuar Fawr]], [[Clynnog Fawr]].<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GLYN-LLI-0850], cyrchwyd 19.10.2019</ref>  


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:02, 18 Hydref 2019

Roedd William Glynn a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn unig fab i Robert ap Meredydd (m.1509) a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon (er i Robert ap Meredydd gael pedwar mab a merch gyda'i wraig gyntaf, Elin Bulkeley).[1]

Fel un na chafodd gymaint o etifeddiaeth o ran tiroedd â'i frodyr hŷn (a etifeddodd Glynllifon, Plas Newydd a thiroedd Nantlle), aeth ati i geisio hel ystad yn nhrefgordd Bodellog, a thrwy hynny fynd i helynt gyda theulu'r Pengwern a hawliai'r un tir. Aflwyddiannus bu ei ymdrechion, fodd bynnag, a threuliodd ei amser i raddau'n gwasanaethu brenin Lloegr, Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd W. Gilbert Williams, roedd ei hanner-frodyr Rhisiart ac Edmwnd "yn llawer mwy defnyddiol i'w gwlad".[2]

Priododd William ap Robert (fel y'i adnabuwyd ar ddechrau ei fywyd nes iddo fabwysiadu cyfenw'r teulu, sef Glyn neu Glynn) â merch Ceidwad Castell Biwmares, Syr Roland Velville. Ar farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, aeth ati gyda'r weddw Arglwyddes Velville, i geisio swydd ceidwad y castell ond fe drechwyd gan Syr Richard Bulkeley. Dichon mai gwobr gysur oedd iddo dderbyn swydd Stiward cwmwd Menai, gyda chyflog blynyddol o £5. Cyrchai'n aml i Lundain ac erbyn 1537, os nad cynt, roedd wedi dyfod yn sarsiant-wrth-arfau ac aelod o gorfflu'r brenin. Ymddengys, eto yn ôl Gilbert Williams, na fu'n ymwneud fawr dim â'i sir enedigol na'i diwylliant; ni cheir cywyddau yn ei foli fel y cafodd lawer o'i gyfoedion bonheddig, a dim ond un, sef Marwnad William ap Robert Amhrydedd sef Sersiant Glyn. Foidd bynnag, ymfalchiai ei ddisgynyddion yn ei hanes a'i theitl, gan arddel y teitl "Y Sarsiant" ym mhob achres. Yn fwy na hynny, am bob cenhedlaeth nes i etifeddes derfynol y llinach, Mary Glynn, â George Twisleton yn ystod y 1650au.[3]

Cafodd fab, William Glynn, a thrwy briodas hwnnw â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glynniaid Lleuar Fawr, Clynnog Fawr.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), tt.67-8
  2. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), t.78
  3. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), tt.79-82
  4. Y Bywgraffiadur Ar-lein, [1], cyrchwyd 19.10.2019