Morris William Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Prifathro [[Ysgol Trefor]] o 1928 tan 1946 oedd '''Morris William Jones'''.
Prifathro [[Ysgol Trefor]] o 1928 tan 1946 oedd '''Morris William Jones'''.


Fe'i ganwyd yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]] ger [[Llanllyfni]] ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll [[Chwarel Dorothea]], y chwarel lechi fawr yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Llanllyfni]] ac yn [[Ysgol Ganolraddol Pen-y-groes]], ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr ''Higher Grade'' yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro [[Ysgol Ynys yr Arch]], [[Pant-glas]].
Fe'i ganwyd yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]] ger [[Llanllyfni]] ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll [[Chwarel Dorothea]], y chwarel lechi fawr yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Llanllyfni]] ac yn [[Ysgol Ganol Pen-y-groes]], ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr ''Higher Grade'' yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro [[Ysgol Ynys yr Arch]], [[Pant-glas]].


Priododd ag athrawes o [[Tala-y-sarn|Dal-y-sarn]], Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol [[Trefor]] o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym [[Mynwent Tai Duon]], Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.
Priododd ag athrawes o [[Tala-y-sarn|Dal-y-sarn]], Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol [[Trefor]] o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym [[Mynwent Tai Duon]], Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.

Fersiwn yn ôl 10:44, 29 Awst 2019

Prifathro Ysgol Trefor o 1928 tan 1946 oedd Morris William Jones.

Fe'i ganwyd yn Nhan'rallt ger Llanllyfni ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll Chwarel Dorothea, y chwarel lechi fawr yn Nyffryn Nantlle. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn Ysgol Llanllyfni ac yn Ysgol Ganol Pen-y-groes, ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr Higher Grade yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro Ysgol Ynys yr Arch, Pant-glas.

Priododd ag athrawes o Dal-y-sarn, Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol Trefor o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym Mynwent Tai Duon, Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.

Bu'n flaenor a thrysorydd yng Nghapel Gosen (M.C.) ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o Seindorf Arian Trefor. Bu hefyd yn arwain Côr Plant Trefor yn llwyddiannus am flynyddoedd. [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones 'Rhen Sgŵl (1978)