Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Treflan fechan ar lan yr Afon Carrog ac Afon Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd ac [[Y Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar bobtu'r ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe orwedd y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.
Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r [[Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar y ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.


Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones (Plas Dolydd)]] yn adeiladydd a chontractor pwysig yng nghanol y 19g.
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones (Plas Dolydd)]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.


Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], efail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganfif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.


Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.


Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.

Fersiwn yn ôl 16:05, 8 Tachwedd 2017

Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn, cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones (Plas Dolydd) yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.