Teulu Lleuar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Unigolion a theuluoedd nodedig]] | [[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Tirfeddianwyr]] |
Fersiwn yn ôl 16:21, 5 Gorffennaf 2019
Roedd Teulu Lleuar, o blwyf Clynnog Fawr yn bwysig yn y sir yn ystod y 16g a 17g. Canol eu hystad, sef Ystad Lleuar, oedd Lleuar, hen blasty gyda melin a thiroedd sylweddol yn perthyn iddo.
Yr aelod cyntaf o'r teulu y gwyddys amdano yw William Glynne, Sarsiant wrth ei Arfau, mab Robert ap Meredydd o Blas Glynllifon, a anwyd oddeutu 1500. Ei wraig gyntaf oedd Grace, merch Syr Rowland Vielleville, Cwnstabl Castell Biwmares a mab anghyfreithlon i Harri Tudur (Harri VII). Cafwyd mab, William Glynn arall, a oedd yn byw ym 1588, ac a etifeddodd Lleuar. Priododd yntau Lowri merch ac etifeddes John Wynne ap Robert ap John ap Meredydd o'r Maesog a Bachwen, Clynnog Fawr.
Y trydedd genhedlaeth oedd William Glynn arall, a briododd Margaret, merch Humphrey Meredydd o'r Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr. Bu farw 1609, ond yr oedd ei fab hynaf Thomas eisoes wedi marw. Yr etifedd felly oedd ei ail fab, y pedwerydd William Glynn; 1613-1660 a briododd Jane Brynkir, ferch ei lys-fam, Margaret Brynkir a oedd, wedi colli ei ŵr cyntaf Ellis Brynkir, wedi mynd yn ail wraig William Glynn III. Cafodd y pâr hwn fab cyntaf-anedig a enwyd William (sef William Glynn V) ond bu farw yn ddwy oed ym 1633; mae cofeb bres ido yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Cafwyd saith o blant eraill wedyn, ond merched oeddynt i gyd.
Y ferch hynaf, Mary (1633-1676), etifeddodd yr ystad. Priododd y Cyrnol George Twisleton (1618-1667), gŵr o Drax ar lannau'r Afon Humber yn swydd Efrog ac un o swyddogion Byddin y Senedd. Fe'i anfonwyd i Ogledd Cymru yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig (sef y Rhyfel Cartref). Setlodd yn Lleuar, gan ddod yn un o ynadon a bonheddigion y sir. Ei fab hynaf, George Twisleton II (1652-1714), etifeddodd yr ystad, a phriodi i reng uchaf hen foneddigaeth y sir ym mherson Margaret Griffith o Gefnamwlch. Gadawodd yr ystad i'w fab hynaf, George Twisleton III, yntau'n priodi Barbara Jackson o Lundain, a marw 1732 - ond nid cyn yrru'r ystad a'r teulu i ddyled fawr.
Cafodd George III a Barbara ddwy ferch, Ann (a farwodd heb briodi), a Mary, a briododd y Cadben William Ridsdale o Ripon, Swydd Efrog. Fe'i laddwyd ym mrwydr Dettingen, 1743.[1] Cyn hynny, roedd Ridsdale wedi gwerthu'r hyn oedd ar ôl o'r ystad i Syr Thomas Wynn, Glynllifon. Nid yw'n amlwg o'r cofnodion a erys ymysg papurau Glynllifon a fu Ridsdale a Mary'n byw o gwbl yn Lleuar. Wedi'r gwerthiant, beth bynnag, aeth Lleuar yn gartref i'r sawl oedd yn rhentu'r tir.[2]