Ystad Lleuar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724. Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.

Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr y soniwyd amdani uchod:
Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr o 1724 y soniwyd amdani uchod:
===Plwyf [[Clynnog Fawr]]===
===Plwyf [[Clynnog Fawr]]===
*Clynnog Plas
*Clynnog Plas
Llinell 17: Llinell 17:
*Brynhafod Bach
*Brynhafod Bach
*Bryn Evan
*Bryn Evan
*Hen Bont
*Henbant
*2 ddaliad Cors-y-wlad
*2 ddaliad Cors-y-wlad
*Cae hir
*Cae hir
*Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
*Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
*Tŷ Glas
*Tŷ Glas
*Ynys yr aren
*Ynys yr arch
*Brysgyni
*Brysgyni
*Glan-y-môr
*Glan-y-môr
Llinell 33: Llinell 33:
*Tyddyn y Drain
*Tyddyn y Drain
*Cae'r Wrach
*Cae'r Wrach
*Corn Ceiliog
*Cors y Ceiliau
*Caeau Duon
*Caeau Duon
*Llawr Sychnant
*Llawr Sychnant
Llinell 65: Llinell 65:
*Rhiw
*Rhiw
*eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7634</ref>
*eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7634</ref>
Hanner canrif yn gynt, pan oedd yr ail George Twisleton yn priodi Margaret Griffith, merch Cefnamlwch yn Nhudweiliog, lluniwyd cytundeb yn nodi'r tiroedd o eiddo teulu Twisleton a fyddai'n cael eu rhoi i unrhyw blant a enid i'r uniad maes o law. Rhestrir bron y cwbl o'r eiddo uchod, ond hefyd nifer sylweddol o ffermydd ac ati'n ychwanegol. Gall fod rhai o'r rhain wedi cael eu huno â ffermydd mwy neu wedi eu gwerthu. Fodd bynnag, o gyfuno'r rhestr isod gyda'r un uchod o 1724, gellir gweld braslun o ehangder Ystad Lleuar ar ei gorau, cyn i drafferthion ariannol goresgyn y teulu. Nid oedd yn ystad fachan ychwaith; er nad oes nodyn o'r nifer o aceri, cofied fod tad Margaret Griffith, sef William Griffith o Lŷn, oedd y dyn cyfoethocaf y mae cofnod ohono yn y sir yn ystod y 17g.<ref>G.H. Williams, ''A Study of Caernarfonshire Probate Records, 1630-1690'', (Traethawd MA, Bangor, 1973)</ref> 

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:04, 5 Gorffennaf 2019

Roedd Ystad Lleuar yn ystad annibynnol nes iddi gael ei huno ag Ystad Glynllifon, wedi i'r teulu oedd yn berchen arni fynd yn fethdalwyr. Yr aelod cyntaf o'r teulu y mae cofnod ohono yw William Glynne, Lleuar, Sarsiant yn y Gyfraith dan Harri VIII - a briododd wyres anghyfreithlon Harri Tudur (Harri VII). Dichon iddo etifeddu tiroedd Leuar oddi wrth ei dad, Robert ap Meredydd, Glynllifon, a bu ychwanegu at y rhain gan ei ddisgynyddion. Ym 1660, ar farwolaeth ei or-ŵyr, pasiodd y tiroedd i'w ferch Mary Glynn (1633-1676), gwraig George Twisleton. Ar ôl marwolaeth ei ŵyr (George rhif III) ym 1732 pasiodd y tiroedd i ŵr ei or-wyres Mary a'i gŵr, y Cadben William Ridsdale, Ripon, Swydd Efrog, ac yntau'n eu gwerthu i Thomas Wynn, A.S., Glynllifon. Yn y cyfamser, yr oedd y teulu wedi morgeisio llawer o'r tir gan eu bod yn wynebu dyledion mawr, a rhaid hefyd oedd setlo'r dyledion. Trwy hyn, ailunwyd rhai o diroedd cynharaf y Glynniaid efo'r prif ystad.[1]

Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724. Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.

Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr o 1724 y soniwyd amdani uchod:

Plwyf Clynnog Fawr

  • Clynnog Plas
  • 3 thŷ a'u gerddi yng Nglynnog Fawr
  • Pennarth
  • Cilcoed
  • Carreg Boeth
  • Tŷ Coch
  • yr efail yng Nghlynnog Fawr
  • Penybryn
  • Ynys Wyddel
  • Maesog
  • Brynhafod Bach
  • Bryn Evan
  • Henbant
  • 2 ddaliad Cors-y-wlad
  • Cae hir
  • Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
  • Tŷ Glas
  • Ynys yr arch
  • Brysgyni
  • Glan-y-môr
  • Parc Bach
  • Pen Rhiwiau
  • Melin Glan-y-môr

Plwyf Llanaelhaearn

  • Moelfre Fawr
  • Tyddyn y Drain
  • Cae'r Wrach
  • Cors y Ceiliau
  • Caeau Duon
  • Llawr Sychnant
  • Tyddyn Hir

Plwyf Llandwrog

  • tir gan Rowland John Rowland
  • rhan o gae ("quillet") gan William Jones
  • rhent gan Humphrey Meredydd, ysw.

Plwyf Llanllyfni

  • Dolgau
  • Llwydcoed Bach

Plwyf Llanwnda

  • Crynnant
  • Gwredog

ac, y tu allan i ffinau Uwchgwyrfai,

Tref Caernarfon

  • o leiaf 14 o dai
  • Boot (efallai Tafarn y Boot)
  • Vaenol House
  • cae o fewn ffiniau'r dref
  • tanerdy

Plwyf Llangelynnin

  • Gynnal
  • rhent oddi wrth Felin Ariannus
  • Rhiw
  • eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.[2]

Hanner canrif yn gynt, pan oedd yr ail George Twisleton yn priodi Margaret Griffith, merch Cefnamlwch yn Nhudweiliog, lluniwyd cytundeb yn nodi'r tiroedd o eiddo teulu Twisleton a fyddai'n cael eu rhoi i unrhyw blant a enid i'r uniad maes o law. Rhestrir bron y cwbl o'r eiddo uchod, ond hefyd nifer sylweddol o ffermydd ac ati'n ychwanegol. Gall fod rhai o'r rhain wedi cael eu huno â ffermydd mwy neu wedi eu gwerthu. Fodd bynnag, o gyfuno'r rhestr isod gyda'r un uchod o 1724, gellir gweld braslun o ehangder Ystad Lleuar ar ei gorau, cyn i drafferthion ariannol goresgyn y teulu. Nid oedd yn ystad fachan ychwaith; er nad oes nodyn o'r nifer o aceri, cofied fod tad Margaret Griffith, sef William Griffith o Lŷn, oedd y dyn cyfoethocaf y mae cofnod ohono yn y sir yn ystod y 17g.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3, 271.
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/7634
  3. G.H. Williams, A Study of Caernarfonshire Probate Records, 1630-1690, (Traethawd MA, Bangor, 1973)