Llyn y Dywarchen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd [[Dyffryn Nantlle]], ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i [[Llyn y Gader|Lyn y Gader]] ac [[Afon Gwyrfai]].<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Llyn_y_Dywarchen,_Rhyd_Ddu] cyrchwyd 13.6.2019</ref> | Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd [[Dyffryn Nantlle]], ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i [[Llyn y Gader|Lyn y Gader]] ac [[Afon Gwyrfai]].<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Llyn_y_Dywarchen,_Rhyd_Ddu] cyrchwyd 13.6.2019</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Llynnoedd]] | [[Categori:Llynnoedd]] |
Fersiwn yn ôl 15:59, 13 Mehefin 2019
Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau am ddŵr, ond mae'r llyn yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.
Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.
Roedd tŷ a godwyd gan deulu Drws-y-coed ar gyfer Morafiaid Drws-y-coed a ymsefydlodd yn yr ardal yn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.
Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.
Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[1]