Arglwyddi Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:unigolion a theuluoedd nodedig]] | [[Categori:unigolion a theuluoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Tirfeddianwyr]] |
Fersiwn yn ôl 15:54, 30 Ebrill 2019
Mae Arglwyddi Newborough yn dal eu teitl yn Arglwyddyddiaeth Iwerddon, ac mae'r enw Newborough yn cyfeirio at Newborough yn Swydd Llwch Garmon (Wexford), tref sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Guaire neu "Gorey". Am y rheswm hwn, anghywir yw cyfeirio at deulu Arglwyddi Newborough fel "Arglwyddi Niwbwrch". Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn, y Barwn cyntaf, fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch, Ynys Môn, y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Fel uchelwyr Gwyddelig, nid oedd ac nid oes gan y pen-teulu a deiliad y teitl unrhyw hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi er mai modd iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer Tŷ Cyffredin San Steffan.
Crëwyd y teitl ym 1776 i gydnabod gwasanaeth gwleidyddol Syr Thomas Wynn, 3ydd Barwnig, o Glynllifon a Boduan, i Frenin Lloegr, Siôr III.
Er bod y teulu wedi ghwerthu llawer o'u tiroedd yng Ngwynedd, ac yn byw bellach yn y Rug, ger Corwen, maent yn dal yn dirfeddianwyr sylweddol yn Uwchgwyrfai.
Arglwyddi Newborough (o 1776 ymlaen)
- Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough (1736-1807)
- Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough (1802–1832)
- Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803–1888)
- William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough (1873–1916)
- Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough (1878–1957)
- Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough (1877–1965)
- Robert Charles Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough (1917–1998)
- Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough (ganwyd 1949)
Etifedd y teitl yw cefnder yr 8fed Barwn, sef Anthony Charles Vaughan Wynn (ganwyd1949).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma