Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel '''Melin Faesog''' (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan [[Afon Desach]] ger treflan [[Tai Lôn]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Bu'r felin, wedi iddi beidio â malu, fynd o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac yn adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>. | Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel '''Melin Faesog''' (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan [[Afon Desach]] ger treflan [[Tai Lôn]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Heb fod ymhell llifa afonig Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Ceir rhai cyfeiriadau llenyddol at afon Rheon. Dyfynnir dau waith sy'n ei chynnwys gan Eben Fardd yn ''Cyff Beuno'' y tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif: | ||
"Yn y ddel Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,/ | |||
Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,/ | |||
Kymry a orfydd, kain fydd e dragon/ | |||
Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,/ | |||
Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon."/ | |||
Bedd Rhun mab Pŷ yn Ergyd/ | |||
Afon, yn oerfel yng ngweryd,/ | |||
Bedd Cynon yn Rheon Ryd."/ | |||
Bu'r felin, wedi iddi beidio â malu, fynd o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac yn adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>. | |||
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref> Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd. | Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref> Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd. |
Fersiwn yn ôl 15:29, 14 Mawrth 2019
Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Heb fod ymhell llifa afonig Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Ceir rhai cyfeiriadau llenyddol at afon Rheon. Dyfynnir dau waith sy'n ei chynnwys gan Eben Fardd yn Cyff Beuno y tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif: "Yn y ddel Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,/ Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,/ Kymry a orfydd, kain fydd e dragon/ Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,/ Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon."/
Bedd Rhun mab Pŷ yn Ergyd/ Afon, yn oerfel yng ngweryd,/ Bedd Cynon yn Rheon Ryd."/
Bu'r felin, wedi iddi beidio â malu, fynd o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac yn adrodd y stori mewn dau lyfr.[1].
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682[2] Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma