Pontydd Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Pont Rhyd-y-meirch.JPG|bawd|de|350px|Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol]]
[[Delwedd:Pont Rhyd-y-meirch.JPG|bawd|de|350px|Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol]]
[[Delwedd:AfonLlyfni-LlynNantlleUchaf-01s.jpg|bawd|de|350px|Pont Baladeulyn, pont diweddar wedi ei hadeiladu o goncrît]]
[[Delwedd:AfonLlyfni-LlynNantlleUchaf-01s.jpg|bawd|de|350px|Pont Baladeulyn, pont ddiweddar wedi ei hadeiladu o goncrît]]


Dyma erthygl gyffredinol am '''Bontydd Uwchgwyrfai''' ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am [[Pontydd Rheilffordd|bontydd rheilffordd]].
Dyma erthygl gyffredinol am '''Bontydd Uwchgwyrfai''' ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am [[Pontydd Rheilffordd|bontydd rheilffordd]].

Fersiwn yn ôl 12:57, 6 Chwefror 2019

Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol
Pont Baladeulyn, pont ddiweddar wedi ei hadeiladu o goncrît

Dyma erthygl gyffredinol am Bontydd Uwchgwyrfai ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am bontydd rheilffordd.

Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei chychwyn ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Prif ffynonellau bodolaeth pontydd y cwmwd yw:

  • mapiau Ordnans o 1888 ymlaen[1]
  • planiau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.
  • dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter yn Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/.

Pontydd a'u hanes

Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.

Cyn bod pont, yr oedd yna fel arfer rhyd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed person ar droed) rhydio afon na mynd yr ffordd hir oddi amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwig a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell, ac yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i Afon Gwyrfai ac Afon Llyfnwy fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheinentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas os yn llydan.

I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. Pont y Cim) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel datblygodd yr angen o symud nwyddau trwm megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambel i afonig fechan yn y mynyddoedd.

Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur corsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiladid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.

Rhestr o bontydd y cwmwd

Rhestru enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo oddi danynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad.

DS: Gwaith ar y rhestr hon yn dal i fynd rhagddo - croeso i chi ychwanegu enwau os nad ydynt yma!

Cyfeiriadau

  1. Mae llawer o fapiau ordnans y cwmwd i'w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [1].