Richard Wilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:

Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn  ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.

Fersiwn yn ôl 10:36, 18 Ionawr 2019

Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs(1752)

Hanai Richard Wilson (1713-1782) yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i Richard Garnons o Golomendy, Sir Ddinbych, a Phlas Du, Dyffryn Nantlle.[1]

Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.

Darlun o'r Wyddfa o Lyn Nantlle

Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl

Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw Llyn Nantlle Isaf, sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ym mhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth Baladeulyn oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth Llyn Nantlle Uchaf. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, y ffaith fod y tir o flaen yr artist wedi cywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent hyd yn oed.

Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cwchod - tystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau neu ffriddoedd ar y dde o ddiddordeb. Mae'r mwg yn codi o waith copr Drws-y-coed.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Casglwr, Rhif 50, (1993), tt.9-12