Richard Wilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Hanai '''Richard Wilson''' (1713-1782) yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i [[Richard Garnons]] o Golomendy, Sir Ddinbych, a [[Plas Du|Phlas Du]], [[Dyffryn Nantlle]].<ref>''Y Casglwr'', Rhif 50, (1993), tt.9-12</ref> | Hanai '''Richard Wilson''' (1713-1782) yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i [[Richard Garnons]] o Golomendy, Sir Ddinbych, a [[Plas Du|Phlas Du]], [[Dyffryn Nantlle]].<ref>''Y Casglwr'', Rhif 50, (1993), tt.9-12</ref> | ||
Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. | Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda. | ||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|bawd|de|400px|''[[Yr Wyddfa]] o Lyn Nantlle'' (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl]] | [[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|bawd|de|400px|''[[Yr Wyddfa]] o Lyn Nantlle'' (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl]] | ||
Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud | Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw [[Llyn Nantlle Isaf]], sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ym mhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth [[Baladeulyn]] oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, y ffaith fod y tir o flaen yr artist wedi cywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent hyd yn oed. | ||
Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac | Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cwchod - tystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau neu ffriddoedd ar y dde o ddiddordeb. Mae'r mwg yn codi o waith copr [[Drws-y-coed]]. | ||
Fersiwn yn ôl 10:35, 18 Ionawr 2019
Hanai Richard Wilson (1713-1782) yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i Richard Garnons o Golomendy, Sir Ddinbych, a Phlas Du, Dyffryn Nantlle.[1]
Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.
Darlun o'r Wyddfa o Lyn Nantlle
Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw Llyn Nantlle Isaf, sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ym mhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth Baladeulyn oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth Llyn Nantlle Uchaf. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, y ffaith fod y tir o flaen yr artist wedi cywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent hyd yn oed.
Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cwchod - tystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau neu ffriddoedd ar y dde o ddiddordeb. Mae'r mwg yn codi o waith copr Drws-y-coed.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Casglwr, Rhif 50, (1993), tt.9-12