John Robinson, perchennog chwareli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''John Robinson''' yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]] gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.<ref>Archifdy Gwladol, RG10/5714.</ref>.
Ganed '''John Robinson''' yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]] gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.<ref>Archifdy Gwladol, RG10/5714.</ref>.


Ymddengys iddo ddod o Lundain i Ddyffryn Nantlle, gan gymryd prydles ar [[Chwarel Fron]] cyn symud i fod yn un o dri partner yn [[Chwarel Tal-y-sarn]].
Dywedir ido fod yn un o gyfarwyddwyr Banc Challis yn Llundain, er nad oedd o fawr hŷn na 30 oed. Banc Challis oedd bancwyr cwmni ''British Slate Co. Ltd.'', cwmni a ffurfiwyd o fuddsoddwyr o Lundain i geisio adfywio Chwarel Fron. Ymddengys iddo gael ei ddanfon o Lundain i Ddyffryn Nantlle ym 1864 i gymryd reolaeth ar [[Chwarel Fron]] a diddordebau eraill y cwmni mewn mannau mor bell â Chorris; tynnwyd allan o Gorris a sawl chwarel arall, gan ail-strwythuro'r cwmni ac ychwanegu Chwarel Cwm Eigiau yn Nyffryn Conwy. Yn y man symudodd i fod yn un o dri partner yn [[Chwarel Tal-y-sarn]], a phan aeth cwmni'r chwarel honno i'r wal ym 1874, cymerodd y chwarel drosodd.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.243-53.</ref>
 
Tra'n gyfrifol am Chwarel Fron, sylweddolodd fod y chwarel dan anfantais oherwydd nad oedd cysylltiad ar hyd rheilffordd neu dramffordd ac achosodd i dramffordd gael ei godi ym 1867 trwy [[Chwarel Tal-y-sarn]] oedd bellach dan ei reolaeth, i gysylltu â [[Rheilffordd Nantlle]]. Gelwid y dramffordd hon yn [[Tramffordd John Robinson|Dramffordd John Robinson]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.248</ref>


Ym 1871, talodd am gael codi [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [http://robinsonmaps.blogspot.com/2014/02/the-dorothea-files-6-chapel-at-plas.html] cyrchwyd 29.10.201</ref>
Ym 1871, talodd am gael codi [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [http://robinsonmaps.blogspot.com/2014/02/the-dorothea-files-6-chapel-at-plas.html] cyrchwyd 29.10.201</ref>
Llinell 15: Llinell 17:
Ni ddylid ei gymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref> Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.
Ni ddylid ei gymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref> Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.


{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Chwarelydda]]

Fersiwn yn ôl 18:32, 31 Hydref 2018

Ganed John Robinson yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.[1].

Dywedir ido fod yn un o gyfarwyddwyr Banc Challis yn Llundain, er nad oedd o fawr hŷn na 30 oed. Banc Challis oedd bancwyr cwmni British Slate Co. Ltd., cwmni a ffurfiwyd o fuddsoddwyr o Lundain i geisio adfywio Chwarel Fron. Ymddengys iddo gael ei ddanfon o Lundain i Ddyffryn Nantlle ym 1864 i gymryd reolaeth ar Chwarel Fron a diddordebau eraill y cwmni mewn mannau mor bell â Chorris; tynnwyd allan o Gorris a sawl chwarel arall, gan ail-strwythuro'r cwmni ac ychwanegu Chwarel Cwm Eigiau yn Nyffryn Conwy. Yn y man symudodd i fod yn un o dri partner yn Chwarel Tal-y-sarn, a phan aeth cwmni'r chwarel honno i'r wal ym 1874, cymerodd y chwarel drosodd.[2]

Tra'n gyfrifol am Chwarel Fron, sylweddolodd fod y chwarel dan anfantais oherwydd nad oedd cysylltiad ar hyd rheilffordd neu dramffordd ac achosodd i dramffordd gael ei godi ym 1867 trwy Chwarel Tal-y-sarn oedd bellach dan ei reolaeth, i gysylltu â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y dramffordd hon yn Dramffordd John Robinson.[3]

Ym 1871, talodd am gael codi Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[4]

Dichon iddo ennill iddo fo ei hun yr enw o fod yn deg ac yn elusengar i'r rhai nad oeddynt mor ffodus ag o: er enghraifft, fo oedd prif gyfrannwr plwyfi [[Llandwrog] a Llanllyfni i gronfa i gynnal te parti i blant ysgol y fro a'r henafgwyr tlawd, i ddathlu Jiwbili'r Frenhines.[5] Beth bynnag am rinweddau'r Jiwbili ei hun, roedd achlysuron o'r fath yn fodd o roi ychydig fwyd a gorffwys i anffodusion y gymdeithas, a disgwylid i dirfeddianwyr chwarae eu rhan - y peth diddorol yma yw mai nid teulu Glynllifon oedd ar ben rhestr y rhoddwyr.

Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei godi'n ynad heddwch,[6] ac fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1899-1900.[7] Bu farw 1900.[8]

Fe'i olynwyd gan ei fab Thomas. Cariwyd ymlaen â gwaith y tad, gan ehangu Chwarel Braich yn ystod prinder llechi adeg Streic y Penrhyn, 1900-03. Cyfunodd chwareli'r teulu (sef Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt) o dan un cwmni ym 1904 dan enw The Talysarn Slate Quarries Co Ltd. Bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, o'r diciau, gan adael yr eiddo i'w tair merch dan reoilaeth ymddiriedolwyr.[9] Mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio i rinweddau'r tad a'r mab: [10]:

"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nanlile, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adfe dy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd LIun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar an adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei fercoh hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eag o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedlgaeth le prydnawn dydd Gwener." 

Ni ddylid ei gymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.[11] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwladol, RG10/5714.
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.243-53.
  3. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.248
  4. Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [1] cyrchwyd 29.10.201
  5. North Wales Chronicle, 26 Mehefin 1897.
  6. Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru, 1895, t.537.
  7. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [2], cyrchwyd 29.10.2018
  8. Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371
  9. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.231-3
  10. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905
  11. Archifdy Gwladol, RG9/4338.