Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol [[Sir Gaernarfon]], yn cynnwys y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, ''Crwydro Arfon''. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf y 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).
Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol [[Sir Gaernarfon]], yn cynnwys y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, ''Crwydro Arfon''. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf y 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).
Ystyr ''Arfon'' yw "nesaf at Ynys Môn" - gyda llys y Tywysog yn Aberffraw, digon naturiol oedd defnyddio enw Môn yn y cyd-destun hwn.


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Rhanbarthau gweinyddol]]
[[Categori:Rhanbarthau gweinyddol]]

Fersiwn yn ôl 15:11, 9 Hydref 2018

Arfon oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd 1536 pan ddileuwyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf hwyr) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen trinid Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi aelodau rheithgorau mawr ac ati.

Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio ardal trwy'r ganrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Arfon yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Ers 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri raniad gweinyddol Sir Gwynedd - er i Arfon ers 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni a dim o blwyf Llanaelhaearn.

Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol Sir Gaernarfon, yn cynnwys y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, Crwydro Arfon. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf y 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).

Ystyr Arfon yw "nesaf at Ynys Môn" - gyda llys y Tywysog yn Aberffraw, digon naturiol oedd defnyddio enw Môn yn y cyd-destun hwn.