Edward Preston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)]] tua 1870, ac mae'n bosibl iddo drosglwyddo ei ddiddordeb i berchennog newydd holl gyfranddaliadau'r lein, [[Thomas Savin]], ym 1863. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef [[Alexander Marshall]].<ref>JIC Boyd, ''op. cit.'', Cyf 1, passim</ref>

Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871.
Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, [[Benjamin Piercy]], wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 19:11, 10 Medi 2018

Peiriannydd sifil oedd Edward Preston, ond yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, prydleswr Rheilffordd Nantlle ydoedd.

Ni wyddys llawer amdano cyn iddo ddod i ardal Caernarfon tua 1855/6. Honai ei fod wedi gweithio fel un o'r peirianwyr wrth i Reilffordd Caer a Chaergybi gael ei hadeiladu tua 1848-50, ond methodd yr hanesydd J.I.C. Boyd â darganfod unrhyw brawf o hyn.[1] Mae'n bosibl iddo hanu o Sir y Fflint, ac mae'n bosibl hefyd ei fod â brawd oedd yn fargyfreithiwr yng Nghaer. Pan geir cyfeiriad ato tu allan i gyd-destun rheilffyrdd, fe'i ddisgrifir yn "Esq.", sydd yn tueddu awgrymu ei fod yn perthyn i'r dosbarth tirfeddianwyr, dynion busnes llewyrchus a gŵyr â phroffesiwn. Yn ôl pob tebyg, dyn ifanc ydoedd y pryd hynny, gan fod ei wraig Ellen Maria, wedi ei geni (yn Llundain) ym 1835, a ganwyd eu merch gyntaf, Mary, ym 1855. Roedd ef a'i deulu ifanc yn byw yn y Tower, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ym Mai 1854. Erbyn Gorffennaf 1855 roeddynt yn byw yn Glyn House, Conwy. Symudodd, mae'n debyg, i Glan Helen, Lôn Parc, Caernarfon yn fuan wedyn wrth iddo ymgymryd â phrydles Rheilffordd Nantlle. Fe ddisgrifiodd ei hun fel peirianydd sifil, a bu'n gweithio fel yr is-gontractor i wireddu cynllunio prif beirianwyr Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd tua 1861-3.

Roedd yn weddol hael at achosion eglwysig, gan gyfrannu at gronfa i helpu Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon a sefydlu eglwys ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn nhref Caernarfon, ymysg rhai eraill.[2]

Ym 1856, fel y dywedwyd eisoes, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle am 10 mlynedd, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825). Rhoddodd Preston flaenoriaeth i gludo teithwyr fodd bynnag, gan gyfyngu nifer y trenau nwyddau i un bob ffordd bob dydd. Roedd rhaid iddo dalu rhwng £2300 a £2500 y flwyddyn i gwmni y rheilffordd am ei brydles, ac fe wnaeth £600 o elw'r flwyddyn ar gyfartaledd.[3]

Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon. Mae'n amlwg iddo ddatblygu bwriad tymor hir i weld Rheilffordd Nantlle yn cael ei thraflyncu gan lein arall, sef Rheilffordd Sir Gaernarfon, a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno mor fuan â Chwefror 1858 - sy'n gofyn y cwestiwn ai rhedeg Rheilffordd Nantlle oedd ei wir nôd, yntau gael gafael ar reilffordd y gellid ei droi'n fwy proffidiol iddo trwy newid ei natur.[4]

Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) tua 1870, ac mae'n bosibl iddo drosglwyddo ei ddiddordeb i berchennog newydd holl gyfranddaliadau'r lein, Thomas Savin, ym 1863. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall.[5]

Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871.

Cyfeiriadau

  1. JIC Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, (Oakwood, 1981), t.29
  2. Llawer o'r ddau baragraff uchod wedi ei gywaino golofnau cyhoeddiadau'r North Wales Chronicle, a Chyfrifiad 1861 am Gaernarfon.
  3. J.I.C. Boyd, op. cit., t.35.
  4. JIC Boyd,op. cit., t.37.
  5. JIC Boyd, op. cit., Cyf 1, passim