Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon''' oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein [[Rheilffordd Nantlle]] ger [[Pant Du]] ar draws y dyffryn i gyfeiriad [[Tan'rallt]], gan wasanaethu [[Chwarel lechi Tan'rallt]], [[Chwarel lechi Fronheulog]] a rhai chwareli bychain eraill. | '''Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon''' oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein [[Rheilffordd Nantlle]] ger [[Pant Du]] ar draws y dyffryn i gyfeiriad [[Tan'rallt]], gan wasanaethu [[Chwarel lechi Tan'rallt]], [[Chwarel lechi Fronheulog]] a rhai chwareli bychain eraill. Agorodd y lein ym 1853 gan gwmni[[Chwarel lechi Tan'rallt|'r chwarel]] i gysylltu'r chwarel â [[Rheilffordd Nantlle]] ger [[Pant-du]]. Y gost oedd bron i £450 a dewisodd y cwmni'r un lled rhwng y cledrau â Rheilffordd Nantlle, sef 3'6", er i'r chwarel ddefnyddio'r lled culach o 2'0" yn nes ymlaen yn nhyllau'r chwarel ei hun. Roedd gan y chwarel ei wagenni a'i cheffylau ei hun, a gellid eu tynnu'r holl ffordd at y cei yng Nghaernarfon yn y dyddiau cynnar. Defnyddid y dramffordd at yr un perwyl gan [[Chwarel lechi Fronheulog]] o 1866 hyd 1879; ac yr oedd cangen i [[Chwarel lechi Tyddyn Agnes]] a [[Chwarel lechi Taldrwst Isaf]]. Wedi i'r lein fawr ledu hen Reilffordd Nantlle, gwnaed seidin, sef [[Seidin Tan'rallt]] lle gellid trawslwytho llechi o wagenni 3'6" i rai mwy a redai ar y lein fawr, er i'r gwahanol chwareli oedd yn ei defnyddio wedi trafod ei ledu i'r led safonol (4'8 1/2"). Dichon i'r dramffordd gau tua 1915, er i'r chwarel weld cyfnodau segur pan nad oedd defnydd ar gyfer y dramffordd.<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Rails in North Caernarvonshire'', Cyf.1 (Oakwood, 1981), tt.89-91; 244-5.</ref> | ||
Defnyddid ceffylau i lusgo'r wagenni ar hyd-ddi gydol oes y lein, a gaewyd tua 1915.<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), t.177.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 10:04, 1 Medi 2018
Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein Rheilffordd Nantlle ger Pant Du ar draws y dyffryn i gyfeiriad Tan'rallt, gan wasanaethu Chwarel lechi Tan'rallt, Chwarel lechi Fronheulog a rhai chwareli bychain eraill. Agorodd y lein ym 1853 gan gwmni'r chwarel i gysylltu'r chwarel â Rheilffordd Nantlle ger Pant-du. Y gost oedd bron i £450 a dewisodd y cwmni'r un lled rhwng y cledrau â Rheilffordd Nantlle, sef 3'6", er i'r chwarel ddefnyddio'r lled culach o 2'0" yn nes ymlaen yn nhyllau'r chwarel ei hun. Roedd gan y chwarel ei wagenni a'i cheffylau ei hun, a gellid eu tynnu'r holl ffordd at y cei yng Nghaernarfon yn y dyddiau cynnar. Defnyddid y dramffordd at yr un perwyl gan Chwarel lechi Fronheulog o 1866 hyd 1879; ac yr oedd cangen i Chwarel lechi Tyddyn Agnes a Chwarel lechi Taldrwst Isaf. Wedi i'r lein fawr ledu hen Reilffordd Nantlle, gwnaed seidin, sef Seidin Tan'rallt lle gellid trawslwytho llechi o wagenni 3'6" i rai mwy a redai ar y lein fawr, er i'r gwahanol chwareli oedd yn ei defnyddio wedi trafod ei ledu i'r led safonol (4'8 1/2"). Dichon i'r dramffordd gau tua 1915, er i'r chwarel weld cyfnodau segur pan nad oedd defnydd ar gyfer y dramffordd.[1]
Defnyddid ceffylau i lusgo'r wagenni ar hyd-ddi gydol oes y lein, a gaewyd tua 1915.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma