Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Carmel''' yn bentref ym mhlwyf Llandwrog. Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar l...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Carmel''' yn bentref ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd CIlgwyn]].
Mae '''Carmel''' yn bentref ym mhlwyf [[Llandwrog]].  
 
==Lleoliad==
Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd Cilgwyn]]. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf [[Llandwrog]] i'r [[Fron]] yn croesi'r lôn o bentref [[Pen-y-groes]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]].
 
==Busnesau ac adnoddau lleol==
Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Bu ysgol yno hefyd nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Gynradd Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol Gynradd y Groeslon]]. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun").
 
Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl [[Capel Carmel (MC)]]. Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capel arall y pentref yw [[Capel Pisgah (B), Carmel|Capel Pisgah]], sef capel y Bedyddwyr. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, a gwerthwyd hen gapel Pisgah i fudiad Uniongred.
 
Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.
 
==Enwogion y pentref==
Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd
* Syr [[Thomas Parry]], academig a llyfrgellydd
* [[Gruffydd Parry]], awdur ac ysgolfeistr
ac hefyd
* [[Dafydd Glyn Jones]], darlithydd a chyd-olygydd ''Geiriadur yr Academi''.
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 17:24, 14 Mehefin 2018

Mae Carmel yn bentref ym mhlwyf Llandwrog.

Lleoliad

Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf Mynydd Cilgwyn. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf Llandwrog i'r Fron yn croesi'r lôn o bentref Pen-y-groes i gyfeiriad Rhosgadfan.

Busnesau ac adnoddau lleol

Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Bu ysgol yno hefyd nes iddi gael ei huno ag Ysgol Gynradd Bro Lleu ar safle Ysgol Gynradd y Groeslon. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun").

Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl Capel Carmel (MC). Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capel arall y pentref yw Capel Pisgah, sef capel y Bedyddwyr. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, a gwerthwyd hen gapel Pisgah i fudiad Uniongred.

Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.

Enwogion y pentref

Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd

ac hefyd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma