Gorsaf reilffordd Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Bu i orsaf Dinas gau i deithwyr a nwyddau 10 Medi 1951, ond fe'i hail-agorwyd hi ar gyfer trenau [[Rheilffordd Eryri]] ym 1997. Fe ddefnyddir hen swyddfa docynnau/ystafelloedd aros a'r sied nwyddau o gyfnod y lein fach wreiddiol. Mae eu pensaernïaeth yn nodweddiadol o waith cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, fel mae'r lleiaf o'r ddwy bont oedd yn cario'r lein dan y ffordd i Felinwnda - er mai pont a ddefnyddir gan gerbydau ffordd yw hi bellach. Yma hefyd fe godwyd siec fawr gan y cwmni newydd Rh. Eryri i gadw coetsys y lein fach a phrynwyd hen sied y Bwrdd Afonydd lleol fel siec injians a gweithle peirianyddol. | Bu i orsaf Dinas gau i deithwyr a nwyddau 10 Medi 1951, ond fe'i hail-agorwyd hi ar gyfer trenau [[Rheilffordd Eryri]] ym 1997. Fe ddefnyddir hen swyddfa docynnau/ystafelloedd aros a'r sied nwyddau o gyfnod y lein fach wreiddiol. Mae eu pensaernïaeth yn nodweddiadol o waith cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, fel mae'r lleiaf o'r ddwy bont oedd yn cario'r lein dan y ffordd i Felinwnda - er mai pont a ddefnyddir gan gerbydau ffordd yw hi bellach. Yma hefyd fe godwyd siec fawr gan y cwmni newydd Rh. Eryri i gadw coetsys y lein fach a phrynwyd hen sied y Bwrdd Afonydd lleol fel siec injians a gweithle peirianyddol. | ||
[[Delwedd:20150912_141054.jpg|200px|bawd|chwith| | [[Delwedd:20150912_141054.jpg|200px|bawd|chwith|Gorsaf Dinas yn 2015]] |
Fersiwn yn ôl 20:24, 11 Hydref 2017
Dinas, neu Gyffordd Dinas, oedd y man cyfnewid i deithwyr a nwyddau rhwng y rheilffordd led safonol (y LNWR/LMS) a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, a redai o Ryd-ddu, gyda changen o'r Bryngwyn ger Rhostryfan, yn bennaf er mwyn cludo llechi a mwynau. Fe'i hagorwyd ym mis Medi 1877. Roedd yno sied nwyddau a seidins cyfnewid, ac roedd giang o ddynion yn gweithio yno'n trosglwyddo llechi o dryciau bach i'r tryciau mawr a fyddai'n cludo'r llechi i Gei Caernarfon neu ddinasoedd Lloegr yn ôl y gofyn. Dyna oedd gorsaf a 'lŵp pasio' cyntaf ar y lein sengl ar ôl ymadael â Chaernarfon am Afon-wen.
Safai (ac yn wir saif) yr orsaf gerllaw Eglwys Llanwnda ym mhentref bach Dinas, er bod gorsaf arall o'r enw Llanwnda tua hanner milltir i'r de o Gyffordd Dinas.
Bu i orsaf Dinas gau i deithwyr a nwyddau 10 Medi 1951, ond fe'i hail-agorwyd hi ar gyfer trenau Rheilffordd Eryri ym 1997. Fe ddefnyddir hen swyddfa docynnau/ystafelloedd aros a'r sied nwyddau o gyfnod y lein fach wreiddiol. Mae eu pensaernïaeth yn nodweddiadol o waith cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, fel mae'r lleiaf o'r ddwy bont oedd yn cario'r lein dan y ffordd i Felinwnda - er mai pont a ddefnyddir gan gerbydau ffordd yw hi bellach. Yma hefyd fe godwyd siec fawr gan y cwmni newydd Rh. Eryri i gadw coetsys y lein fach a phrynwyd hen sied y Bwrdd Afonydd lleol fel siec injians a gweithle peirianyddol.