Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llinell 23: Llinell 23:
== Cyfrannwch ==
== Cyfrannwch ==


Safle yw hon lle gall unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, rydym yn wirioneddol angen eich cyfraniadau er mwyn gwneud '''Cof y Cwmwd''' yn hollol gynhwysfawr o holl agweddau ar hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl mai eraill sy'n gwybod mwy na chi am eich ardal chi; mae gan bawb ffeithiau diddorol os nad unigryw i'w rhannu.
Safle yw hon lle gall unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, rydym yn wirioneddol angen eich cyfraniadau er mwyn gwneud '''Cof y Cwmwd''' yn hollol gynhwysfawr o holl agweddau ar hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal chi; mae gan bawb ffeithiau diddorol os nad unigryw i'w rhannu.


Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb. Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl neu eginerthygl newydd ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, LLanllyfni a Llanwnda).
Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb. Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyniad ar gyfer erthygl newydd) ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, LLanllyfni a Llanwnda).


Cymraeg yw iaith '''Cof y Cwmwd'''. Mae erthyglau am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia, neu mae modd mentro cael cyfieithiad o ryw fath trwy ddefnyddio Google Translate!
Cymraeg yw iaith '''Cof y Cwmwd'''. Mae erthyglau am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia, neu mae modd mentro cael cyfieithiad o ryw fath trwy ddefnyddio Google Translate!

Fersiwn yn ôl 10:02, 11 Hydref 2017

Cof y Cwmwd

Cyflwyniad

Croeso i Cof y Cwmwd, sef casgliad o erthyglau ar hanes a diwylliant cwmwd Uwchgwyrfai yng Ngwynedd.

Mae Cof y Cwmwd yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gellir cyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Mae wici Cof y Cwmwd yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, gan ddefnyddio'r un meddalwedd.

Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i chwarae eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Diweddariadau

Erthyglau newydd

  1. David Williams, Fern Villa
  2. Y Bryn
  3. Y Bryn, Llanwnda
  4. Cae Sais, Llanwnda
  5. Fern Villa

Gwefan newydd

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.

Fe fydd rhagor o erthyglau am hanes Uwchgwyrfai ar y wefan hon yn fuan. Yn y cyfamser ewch i'r categori Trafnidiaeth i weld enghreifftiau o erthyglau a chategorïau. Bydd rhagor i'w gweld yn fuan.

Cyfrannwch

Safle yw hon lle gall unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, rydym yn wirioneddol angen eich cyfraniadau er mwyn gwneud Cof y Cwmwd yn hollol gynhwysfawr o holl agweddau ar hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal chi; mae gan bawb ffeithiau diddorol os nad unigryw i'w rhannu.

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb. Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyniad ar gyfer erthygl newydd) ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, LLanllyfni a Llanwnda).

Cymraeg yw iaith Cof y Cwmwd. Mae erthyglau am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia, neu mae modd mentro cael cyfieithiad o ryw fath trwy ddefnyddio Google Translate!

DIM sylwadau personol na feirniadaeth o gyfrannwyr eraill os gwelwch yn dda - a dim iaith anweddus ychwaith!

Ewch i Cymorth am ragor o fanylion ar sut i gyfrannu.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.