Maes Awyr Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Control Tower - geograph.org.uk - 568598.jpg|bawd|de|300px|Yr hen dwr rheoli]]
'''Maes Awyr Caernarfon''' yw enw presennol y maes awyr ar [[Trwyn Dinlle|Drwyn Dinlle]] a adeiladwyd ym mis Ionawr 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ar gyfer y llu awyr a'i alw'n "RAF Llandwrog". Pwrpas y maes awyr hwn oedd gwasanaethu fel canolfan hyfforddi llyw-wyr, gweithredwyr radio a magnelwyr awyrennau bomio. Tua chanol 1942, peidiodd y hyfforddi hwnnw, ac o hynny ymlaen tan 1945 roedd yr osaf yn dod o dan uned hyfforddi RAF Penrhos. Fe'i gaewyd fel maes awyr RAF ym 1946, ond am 8 mlynedd wedyn bu'n safle storio bomiau cemegol Allmeinig, gan gynnwys rhai yn cynnwys nwy nerfol.<ref>https://en.wikipedia.org/wiki/RAF_Llandwrog</ref>

Fersiwn yn ôl 16:04, 24 Ebrill 2018

Yr hen dwr rheoli

Maes Awyr Caernarfon yw enw presennol y maes awyr ar Drwyn Dinlle a adeiladwyd ym mis Ionawr 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ar gyfer y llu awyr a'i alw'n "RAF Llandwrog". Pwrpas y maes awyr hwn oedd gwasanaethu fel canolfan hyfforddi llyw-wyr, gweithredwyr radio a magnelwyr awyrennau bomio. Tua chanol 1942, peidiodd y hyfforddi hwnnw, ac o hynny ymlaen tan 1945 roedd yr osaf yn dod o dan uned hyfforddi RAF Penrhos. Fe'i gaewyd fel maes awyr RAF ym 1946, ond am 8 mlynedd wedyn bu'n safle storio bomiau cemegol Allmeinig, gan gynnwys rhai yn cynnwys nwy nerfol.[1]

Ym 1942, bu swyddog meddygol yn y llu awyr, Liwtenant George Desmond Graham, sylwi fod llawer o ddamweiniau awyrennau ym mynyddoedd Eryri, a sefydlodd tîm achub mynydd gwirfoddol yma. Datblygodd y tîm hwn a thimau eraill cyffelyb yn Wasanaeth Achub Mynydd y Llu Awyr ym 1943, gwasanaeth a fu'n hanfodol i achub morwyr a dringwyr ar draws ynysoedd Prydain tanyn ddiweddar iawn yn ogystal adarparu gwasanaeth achubi'r llu awyr ei hun..[2]

Gwelir llawer o hen adeiladau a murddunod o amser y rhyfel o hyd ar y maes awyr ei hun ac yn ei gyffiniau. Ysywaeth, tynnwyd yr holl hen storfeydd awyrennau, neu hangersi lawr yn y 1950au. Defnyddid y tŵr rheoli gwreiddiol tan yn ddiweddar, pan godwyd adeilad talach ychydig i'r gorllewin, gan ddymchwel yr hen un.

Mae'r maes awyr yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer hedfan pleser ac awyrennau preifat (gan gynnwys microawyrennau), ond cynigir cyfleon masnachol i hedfan o gwmpas yr ardal. Ers troad y ganrif mae'r Ambiwlans Awyr wedi cadw un o'i hofrenyddion yma, ar gyfer argyfyngau a gwyd yng ngogledd Cymru; ac ers 2015 mae'r gwasanaeth achub môr a mynydd a gynhaliwyd gynt gan y llu awyr yn y Fali wedi cael ei drosglwyddo i safle newydd ym maes awyr Caernarfon, lle mae asiantaeth breifat Bristow yn gweithredu ar ran Gwylwyr y Glannau. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau