Tŷ'nlôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Treflan fechan sy'n sefyll o bobtu hen lôn Pwllheli yw '''Tŷ'nlôn''', ym mhlwyf Llandwrog. Eir at y dreflan trwy droi oddi ar y briffordd yng nghan...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Treflan fechan sy'n sefyll o bobtu hen lôn Pwllheli yw '''Tŷ'nlôn''', ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Eir at y dreflan trwy droi oddi ar y briffordd yng nghanol [[Bethesda Bach]]. Heblaw am ddwy res o dai, rhai'n unllawr, a rhyw hanner dwsin o dai ar eu pennau'u hunain, yr unig adeilad yw [[Capel Salem (W), Tŷ'nlôn|Capel Salem (W)]]. Yr oedd perchnogion hen blas Mount Hazel, neu Gollfryn, yn berchen ar y tir o amgylch, fel rhan o [[Ystad Collfryn]].
Treflan fechan sy'n sefyll o bobtu hen lôn Pwllheli yw '''Tŷ'nlôn''', ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Erbyn hyn, y ffordd trwy Dŷ'nlôn yw un o'r ychydig olion o linell y ffordd i Bwllheli cyn adeiladu'r [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] tua 1810 ar hyd tir corsiog i'r dwyrain o'r gefnen lle saif y dreflan. Eir at y dreflan heddiw trwy droi oddi ar y briffordd yng nghanol [[Bethesda Bach]]. I'r gogledd mae'r ffordd yn rhedeg ymlaen o hyd at gasgliad o dai. Yma arferai'r ffordd groesi [[Afon Carrog]] trwy fynd dros [[Pont Wen]]. Er bod talcen y bont ar un ochr yn aros, mae'r bont ei hun wedi diflannu ers llawer dydd, yn sicr cyn 1888 pan gyhoeddwyd mapiau Ordnans graddfa fawr cynharaf yr ardal (er y dangosir y bont ar fap Ordnans graddfa fach ym 1840).
 
Heblaw am ddwy res o dai, rhai'n unllawr, a rhyw hanner dwsin o dai ar eu pennau'u hunain, yr unig adeilad yw [[Capel Salem (W), Tŷ'nlôn|Capel Salem (W)]]. Yr oedd perchnogion hen blas Mount Hazel, neu Gollfryn, yn berchen ar y tir o amgylch, fel rhan o [[Ystad Collfryn]].


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:18, 20 Mawrth 2018

Treflan fechan sy'n sefyll o bobtu hen lôn Pwllheli yw Tŷ'nlôn, ym mhlwyf Llandwrog. Erbyn hyn, y ffordd trwy Dŷ'nlôn yw un o'r ychydig olion o linell y ffordd i Bwllheli cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg tua 1810 ar hyd tir corsiog i'r dwyrain o'r gefnen lle saif y dreflan. Eir at y dreflan heddiw trwy droi oddi ar y briffordd yng nghanol Bethesda Bach. I'r gogledd mae'r ffordd yn rhedeg ymlaen o hyd at gasgliad o dai. Yma arferai'r ffordd groesi Afon Carrog trwy fynd dros Pont Wen. Er bod talcen y bont ar un ochr yn aros, mae'r bont ei hun wedi diflannu ers llawer dydd, yn sicr cyn 1888 pan gyhoeddwyd mapiau Ordnans graddfa fawr cynharaf yr ardal (er y dangosir y bont ar fap Ordnans graddfa fach ym 1840).

Heblaw am ddwy res o dai, rhai'n unllawr, a rhyw hanner dwsin o dai ar eu pennau'u hunain, yr unig adeilad yw Capel Salem (W). Yr oedd perchnogion hen blas Mount Hazel, neu Gollfryn, yn berchen ar y tir o amgylch, fel rhan o Ystad Collfryn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma