Ffyrdd Tyrpeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:


''Caernarfon i Bwllheli:''
''Caernarfon i Bwllheli:''
Pont Seiont  
* Pont Seiont  
[[Llanaelhaearn] (fe gaewyd y giât hon o gwmpas 1830, gan sefydlu giatiau ym Maes Mawr (nid nepell o Ysbyty Bryn Beryl heddiw) a Chlynnog Fawr.)
* [[Llanaelhaearn] (fe gaewyd y giât hon o gwmpas 1830, gan sefydlu giatiau ym Maes Mawr (nid nepell o Ysbyty Bryn Beryl heddiw) a Chlynnog Fawr.)


''Llanwnda i Dremadog:''
''Llanwnda i Dremadog:''
[[Dolydd]]
* [[Dolydd]]
[[Berth]]
* [[Berth]]


''Pen-y-groes'':
''Pen-y-groes'':
[[Pant Du]]
* [[Pant Du]]
[[Gelli]], ger [[Nantlle]]
* [[Gelli]], ger [[Nantlle]]
Rhyd-ddu.
* Rhyd-ddu.


Yr arfer oedd caniatáu i'r sawl oedd yn talu mewn un dollborth fynd heibio'r giatiau nesaf heb dalu eto, o ddangos y tocyn a gafodd yn y gyntaf. Ymddengys mai mwy hael yn hyn o beth oedd yr Ymddiriedoleth hon, gan na chyrhaeddodd Terfysg Beca yr ardal - er nad oedd neb yr or-fodlon wrth reswm i dalu'r tollau.
Yr arfer oedd caniatáu i'r sawl oedd yn talu mewn un dollborth fynd heibio'r giatiau nesaf heb dalu eto, o ddangos y tocyn a gafodd yn y gyntaf. Ymddengys mai mwy hael yn hyn o beth oedd yr Ymddiriedoleth hon, gan na chyrhaeddodd Terfysg Beca yr ardal - er nad oedd neb yr or-fodlon wrth reswm i dalu'r tollau.

Fersiwn yn ôl 19:15, 14 Chwefror 2018

Adeiladwyd nifer o ffyrdd tyrpeg yn Uwchgwyrfai. Y corff oedd yn gyfrifol am eu hagor i gyd oedd Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon. Y rhai a dalodd yn bennaf am wella'r ffyrdd oedd y tirfeddianwyr lleol, ac roedd y rhan helaethaf o'r rhain yn ffurfio aelodaeth yr ymddiriedolaeth. Roedd gan bob ymddiriedolaeth gadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd, ond y prif swyddog taledig gweithredol oedd y 'syrfewr'.

Pasiwyd deddf seneddol yn 1768/9 a sefydlodd ymddiriedolaeth yn Sir Gaernarfon, gan roi pwerau iddi adeiladu ffordd dyrpeg (sef ffordd doll) o fferi Tal-y-cafn yn Nyffryn Conwy trwy Gonwy, Bangor a Chaernarfon yr holl ffordd i Bwllheli. Mater oedd hyn o atgyweirio'n sylweddol, weithiau'n dargyfeirio a phob tro godi safon y ffyrdd oedd yn bodoli cyn i'r dyrpeg gael ei sefydlu. Cysylltodd â'r ffordd dyrpeg o Lundain i Gaergybi a ffyrdd Ymddiriedolaeth Dyrpeg Porthdinlläen. Roedd y ffordd hyd Caernarfon wedi ei chwblhau yn y blynyddoedd wedi i'r ddeddf gael ei phasio, ond cymerodd tan nes at 1810 i'r ffordd dyrpeg gyrraedd Bwllheli. Yn y flwyddyn honno, cafwyd pwerau ychwanegol i wella, lledu, gwyro a thrwsio nifer o ffyrdd eraill a'u hymgorffori yn eiddo'r ymddiriedolaeth; yn eu mysg, y lonydd o Gaernarfon i Feddgelert, o Gaernarfon i Ben-y-gwryd, a darnau ychwanegol o ffyrdd ym Mangor. Yn bwysicach i Uwchgwyrfai, crëwyd ffyrdd tyrpeg newydd o bentref Clynnog Fawr i'r Berth ac o'r fan honno i Ryd-ddu ar hyd Dyffryn Nantlle; ac o Bont Glanrhyd, Llanwnda trwy Llanllyfni i Garn Dolbenmaen a'r Traeth Mawr. Fe agorwyd y rhain yn fuan wedi 1810. Codwyd tollau i dalu am y buddsoddiad cychwynnol a'r gwaith canlynol o atgyweirio'r ffyrdd, ac fe gasglwyd y tollau gan geidwaid giatiau neu dollbyrth (a restrir isod).

Yn y diwedd, roedd ffyrdd tyrpeg yn rhedeg ar hyd dyffrynnoedd Gwyrfai a Nantlle, o Gaernarfon i Bwllheli ac o Lanwnda i Dremadog; i bob pwrpas, dyma ddisgrifio'r ffyrdd A a B sydd yn bodoli heddiw. Yr unig ddarn sydd bellach yn ffordd sirol ddosbarth 3 yw'r ffordd o Glynnog Fawr trwy bentref Capel Uchaf i'r Berth.

Daeth oes y ffyrdd tyrpeg, gan gynnwys Tyrpeg Sir Gaernarfon, i ben 1 Tachedd 1882, ac o'r dyddiad hwnnw nid oedd angen talu'r un doll ar ffyrdd y sir.[1]

Pwerau'r ymddiriedolwyr

Tollbyrth

Roedd tollbyrth yn y mannau canlynol yn Uwchgwyrfai[2]; mannau strategol oeddynt er mwyn 'dal' cymaint o draffig ag oedd yn bosibl.

Caernarfon i Bwllheli:

  • Pont Seiont
  • [[Llanaelhaearn] (fe gaewyd y giât hon o gwmpas 1830, gan sefydlu giatiau ym Maes Mawr (nid nepell o Ysbyty Bryn Beryl heddiw) a Chlynnog Fawr.)

Llanwnda i Dremadog:

Pen-y-groes:

Yr arfer oedd caniatáu i'r sawl oedd yn talu mewn un dollborth fynd heibio'r giatiau nesaf heb dalu eto, o ddangos y tocyn a gafodd yn y gyntaf. Ymddengys mai mwy hael yn hyn o beth oedd yr Ymddiriedoleth hon, gan na chyrhaeddodd Terfysg Beca yr ardal - er nad oedd neb yr or-fodlon wrth reswm i dalu'r tollau.

Roedd yn arferol i'r Ymddiriedolaeth rentu'r tollbyrth a'r hawl i gasglu tollau i'r sawl a gynigiai fwyaf am y fraint yn hytrach na chyflogi ceidwaid eu hunain ar gyfer y giatiau.


Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, The Caernarvonshire Turnpike Trust, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.17 (1956), tt.62-7.
  2. ibid., tt.68-9.