Coffi yn Uwchgwyrfai, 1850: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 53: Llinell 53:
Hyd yma, ni lwyddwyd i ganfod John Owen, dyn y coffi mewn cyfrifiadau eraill. Ac mae'r dirgelwch ynglŷn â'r Robert Owen yn Wenlock Street yn parhau. Yn wir, roedd yna Robert Owen o Ddyffryn Nantlle'n flaenor yng Nghapel Jewin trwy gydol yr 1840au, sef [[Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)]], gŵr a aeth yn weinidog ar Jewin - ond nid cyn 1859. Roedd hwnnw'n fab [[Ffridd Baladeulyn]] yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]], ond cafodd ei eni ym 1803, ac felly roedd tad Ann chwe mlynedd yn hŷn nag ef, a bwrw nad oedd cymysgu dyddiadau. Roedd yn gyndyn o fynd yn ordeiniedig, gan ddewis parhau tan 1859 i weithio fel addurnwr tai, ac felly pam y byddai'n honni ei fod yn weinidog ym 1851. Ac roedd wedi priodi ag Ellen, merch o'r Bala, ym 1832, a honno'n dal yn fyw, ac felly nid oedd yn ŵr gweddw pan wnaed y Cyfrifiad ym 1851. Fel ateb terfynol i hyn, gellir edrych ar ffurflenni Cyfrifiad St Sepulchre, Finsbury lle gwelir fod yr Eryron yn byw gydag Ellen a'i blant yn 14 Charterhouse Lane.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', erthygl ar Robert Owen,[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-OWEN-ROB-1803#?c=0&m=0&s=0&cv=5&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F5569684%2Fmanifest.json&xywh=343%2C807%2C1474%2C1272] ,cyrchwyd 14.1.2026; Cyfrifiad Finsbury, 1851</ref>Gall;wn fod yn hyderus felly mai tad Ann oedd John Jones. Tybed ai cael ei ddrysu efo sgwrs am holl gysylltiadau teulu Owen â'rw einidogaeth oedd y cyfrifwr yn Llundain.  
Hyd yma, ni lwyddwyd i ganfod John Owen, dyn y coffi mewn cyfrifiadau eraill. Ac mae'r dirgelwch ynglŷn â'r Robert Owen yn Wenlock Street yn parhau. Yn wir, roedd yna Robert Owen o Ddyffryn Nantlle'n flaenor yng Nghapel Jewin trwy gydol yr 1840au, sef [[Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)]], gŵr a aeth yn weinidog ar Jewin - ond nid cyn 1859. Roedd hwnnw'n fab [[Ffridd Baladeulyn]] yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]], ond cafodd ei eni ym 1803, ac felly roedd tad Ann chwe mlynedd yn hŷn nag ef, a bwrw nad oedd cymysgu dyddiadau. Roedd yn gyndyn o fynd yn ordeiniedig, gan ddewis parhau tan 1859 i weithio fel addurnwr tai, ac felly pam y byddai'n honni ei fod yn weinidog ym 1851. Ac roedd wedi priodi ag Ellen, merch o'r Bala, ym 1832, a honno'n dal yn fyw, ac felly nid oedd yn ŵr gweddw pan wnaed y Cyfrifiad ym 1851. Fel ateb terfynol i hyn, gellir edrych ar ffurflenni Cyfrifiad St Sepulchre, Finsbury lle gwelir fod yr Eryron yn byw gydag Ellen a'i blant yn 14 Charterhouse Lane.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', erthygl ar Robert Owen,[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-OWEN-ROB-1803#?c=0&m=0&s=0&cv=5&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F5569684%2Fmanifest.json&xywh=343%2C807%2C1474%2C1272] ,cyrchwyd 14.1.2026; Cyfrifiad Finsbury, 1851</ref>Gall;wn fod yn hyderus felly mai tad Ann oedd John Jones. Tybed ai cael ei ddrysu efo sgwrs am holl gysylltiadau teulu Owen â'rw einidogaeth oedd y cyfrifwr yn Llundain.  


Nid oedd y teulu'n dal yn 55 Wenlock Street ym 1861. Dirgelwch felly yw i ble'r aeth y teulu, a beth a ddigwyddodd i'r busnes ac i John Owen ei hun.  
Nid oedd y teulu'n dal yn 55 Wenlock Street ym 1861. Dirgelwch felly yw i ble'r aeth y teulu, a beth a ddigwyddodd i'r busnes ac i John Owen ei hun. Gwyddwn, beth bynnag, ei fod wedi marw cyn 1891, gan fod Ann Owen wedi bod yn byw ym Mryn Afon, Tal-y-sarn a'i bod wedi marw fis Hydref 1892 yn 68 oed.<ref>O. Llew Owain, ''Cofiant Mrs Fanny Jones'', (Machynlleth, 1907), t.80</ref> Ni cehir cofnod ohoni yno yng nghyfrifiadau 1871 nac 1881, ond ym 1891 nodwyd ei bod yn wraig weddw, ac yn ngweithio fel masnachwr blawd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91</ref>


Trwy hap, daeth 55 Wenlock Street i amlygrwydd eto ymhen bron i ganrif. Fe'i chwalwyd gan fom Almaenig ar noson gyntaf bomio Llundain ym 1940, a dynes oedd yn byw yno oedd y cyntaf o'r miloedd o Lundeinwyr i gael eu lladd gan fomiau yn ystod y rhyfel.<ref>Gwefan ''Blitz Incidents'', [https://blitzincidents.blogspot.com/2014/06/the-first-bombs-on-london-night-of-24th.html], cyrchwyd 14.1.2026</ref>
Trwy hap, daeth 55 Wenlock Street i amlygrwydd eto ymhen bron i ganrif. Fe'i chwalwyd gan fom Almaenig ar noson gyntaf bomio Llundain ym 1940, a dynes oedd yn byw yno oedd y cyntaf o'r miloedd o Lundeinwyr i gael eu lladd gan fomiau yn ystod y rhyfel.<ref>Gwefan ''Blitz Incidents'', [https://blitzincidents.blogspot.com/2014/06/the-first-bombs-on-london-night-of-24th.html], cyrchwyd 14.1.2026</ref>

Fersiwn yn ôl 14:03, 16 Ionawr 2026

Coffi

Daeth coffi i Ewrop yn ystod yr 16g, ac erbyn ail hanner yr 17g. roedd llawer yn cael ei yfed mewn trefi yn Lloegr, mewn "tai coffi" arbennig. Erbyn y 1670au, roedd dros 3,000 o'r tai coffi hyn yn Lloegr[1], a dichon bod rhai'n ymddangos yn nhrefi mawr Cymru yn ystod y ganrif a hanner wedi hynny.

Serch hynny, nid yw'n arferol meddwl am Gymry cyffredin y 19g fel rhai a fyddai'n yfed fawr o goffi. Yr oedd te'n ddiod o ddewis gan y werin, os nad oeddynt yn ffafrio cwrw bach neu seidr, neu os nad oeddynt ond yn gallu fforddio te.

Groseriaid Uwchgwyrfai a'u cyflenwyr

Serch hynny, roedd groseriaid y cwmwd yn barod i ddiwallu awydd rhai cwsmeriaid am goffi ac roedd dau gwmni, John Cassell a John Owen, y ddau o Lundain, yn hysbysebu'n eang yn y Wasg tua 1850. Aeth Cassell mor bell â rhybuddio cwsmeriaid rhag prynu coffi ei brif gystadleuydd yn y farchnad, John Owen, gan eu hannog i fynd at ei asiantau ef ei hun i brynu coffi. Beth bynnag, dim ond rhyw ddwsin o asiantau ar draws Gogledd Cymru oedd yn gwerthu Coffi Cassell, a neb yn nes na Chaernarfon, lle roedd J.R. Jones, groser ar Y Maes, yn asiant. Ym Mhwllheli roedd R. Williams, ger Gwesty'r Goron, hefyd yn gwerthu Coffi Cassell.[2]

Roedd John Owen yn gwerthu ei goffi'n fwy eang ar draws Uwchgwyrfai trwy ddelio'n uniongyrchol â groseriaid y fro, ac mae'n eu rhestru mewn hysbysebion tudalen flaen yn y Wasg, a hynny'n weddol gyson. Erbyn mis Mai 1850, roedd siopau groser mewn pump o bentrefi Uwchgwyrfai'n stocio ei goffi - a hynny, yn ddigon diddorol, mewn pacedi yr un faint â rhai Mr Cassell. Mae dyfyniad isod o'r Amserau yn rhoi darlun o ddechrau'r ffasiwn newydd mewn diodydd [3]:

COFFI JOHN OWEN. Gan fod Coffee wedi dod eisioes ac yn debyg o fod yn un o'r cynnaliaethau llifnoddol mwyaf cyffredinol yn y deyrnas y mae o bwys i'w gael yn dda o ran ei ansawdd, yn beraidd o ran ei flas, ac yn rhydd oddiwrth unrhyw gymysgedd niweidiol. Y mae Coffee JOHN OWEN yn cyfarfod archwaeth yr oes, oblegid y mae y Coffee rhagorawl hwn yn gymmysgedd Philosophaidd o'r rhywiau mwyaf dewisol a gynhyrchir yn y byd. Y mae yn bigiadau o gynnyrch Mocha, Costa Rica, Java, a thyfiadau mynyddoedd Jamaica, pa rai a wneir i fynu yn y fath fodd gan John Owen fel ac i ddwyn allan fawr gryfder y Mocha, pereidd-dra y Costa Rico, melusdra ardderchog Java, a thynerweh rhyfeddol y Jamaica yr hyn a gyfansodda y fath raddau o gryfdwr, ardderchowgrwydd, a blas nas gellir ei gael yn unman arall. Gellir cael unrhyw bwysau, o ddwy wns i fyny, ganddynt am y prisiau canlynol:- 
*Coffee John Owen, Rhif 1 1s. 0c. Cryf a da. 
*Coffee John Owen, Rhif 2.1s. 4c. Rhagorol dda. 
*Coffee John Owen, Rhif 3 1s. 8c. Y mae y coffee hwn yn faethlon, cryf, a blasus, boddlona bawb a'i pryno.
*Coffee John Owen, Rhif 4 2s. 0c. Hwn ydyw y goraf a ellir ei gael am unrhyw bris, gan ei fod yn gymysgedd o'r Planhigion goraf yn y byd. 
D.S.— Y mae enw John Owen ar bob swpyn o'r Coffee, heb yr hwn nid oes yr un yn ddidwyll.
Ystordy, 55, Wenlock Street, Hoxton New Town, Llundain. Y gwerthiant cyflym a gafwyd i'r Coffee hwn yn Llundain, sydd yn brawf o'i ragoriaethau clodwiw. Y mae John Owen yn penderfynu na chaiff dim fod yn eisiau o'i du ef, tuag at alluogi y cyffredin i gael y Coffee goreu a gynnyrchir yn y byd; y mae rhan fawr o drigolion Prydain, heb archwaethu Coffee yn ei berffeithrwydd hyd yn hyn, gan hyny, erfynir arnynt i brynu Coffee John Owen, yr hwn a ammoda sefyll yr uwchaf yn y fasnach hon. Profwch ef a bernwch trosoch eich hunain.

Yn dilyn y geiriau hyn, ceir rhestr o bron i gant o werthwyr y coffi ar draws Gogledd Cymru a'r Gororau, ac mae hyn hefyd yn ddefnyddiol i weld pwy ac ym mha leoedd yn Uwchgwyrfai yr oedd groseriaid i'w cael tua chanol y 19g. Groseriaid Uwchgwyrfai a restrir yn hysbyseb mis Mai oedd:

Efallai mai'r peth mwyaf diddorol ynglŷn â'r rhestr hon yw'r ffaith ei bod yn cynnwys pentrefi diwydiannol yn hytrach nag ardaloedd lle roedd mwy o ffermwyr cefnog yn tueddu i fyw, sef y bobl a oedd yn siopa'n fwy cyson yn y trefi.

Roedd yn amlwg bod John Owen wedi taro ar farchnad lewyrchus, beth bynnag oedd ansawdd ei goffi. Yr unig wahaniaeth yn ei brisiau oedd y ffaith ei fod yn gwerthu'r coffi rhataf am rôt (4c) yn llai na choffi rhataf Cassell. Erbyn Medi 1850, roedd y rhwydwaith o groseriaid a werthai goffi John Owen wedi ymestyn ar draws y cwmwd, a cheir rhestr fwy defnyddiol fyth o roseriaid y fro yr adeg honno yn y papur lleol[4]:

Sylwer mai'r unig bentref o bwys nad oedd yn cael ei gynnwys oedd Y Bontnewydd er bod nifer o siopau yno - ond wrth gwrs, nid yw'r pentref hwnnw ond milltir o dref Caernarfon, lle gwerthid coffi John Owen yn eang, yn ogystal â choffi Cassell.

Peth arall diddorol yn y rhestr hon yw enwau o bwys yn hanes ehangach Uwchgwyrfai: yr E. Thomas a restrwyd oedd Eben Fardd, a'r J. Jones yn Nhal-y-sarn oedd John Jones, Tal-y-sarn, y gweinidog a pherchennog rhannol Cloddfa'r Coed. John Owen, y masnachwr coffi, oedd ei fab yng ynghyfraith.[5]

John Owen a'i deulu

Un cwestiwn sydd yn aros. Pwy oedd y John Owen hwn, a pham oedd masnachwr o Lundain bell yn targedu cartrefi Uwchgwyrfai? Mae'r hysbysebion yn dechrau ymddangos yn gynnar ym 1850 ond yn diflannu yn fuan ar ôl dechrau 1851. Dichon mai mwynhau llwyddiant yn sgîl ei fynychu hysbysebu yr oedd o, ac wedi penderfynu arbed cost yr hysbysebion. Roedd yn dal i fyw yn 55 Wenlock Street a chynnal ei fusnes oddi yno ym 1852.[6]Ceir hysbyseb arall ganddo ym 1854, lle mae'n dweud ei fod wedi bod yn y busnes ers pum mlynedd. Nodwyd yno fod ganddo warws ar gyfer gogledd Cymru yn Y Rhyl - ond nid oes sôn am na Llundain na Wenlock Street.[7]

Hawdd, serch hynny, oedd cael rhyw grap ar bwy oedd y dyn, gan fod Cyfrifiad 1851 ar gael.[8] Fel masnachwr mae'n ddigon posibl ei fod ar daith farchnata fel gwerthwr teithiol yn recriwtio mwy o siopau, ond (beth bynnag y rheswm) nid oedd adref ar noson y Cyfrifiad ym 1851 yn 55 Wenlock Street, Hoxton (ger Islington a'r Barbican yn nwyrain Llundain). Beth bynnag, roedd ei wraig yno, sef Ann Owen, dynes ifanc 26 oed a hanai o Sir Gaernarfon (ni nodwyd y plwyf). Nodwyd ei gwaith fel deliwr mewn coffi, a'i statws fel y penteulu, er ei bod yn wraig briod (h.y. nid yn weddw), sydd yn awgrymu bod y gŵr oddi cartref, dros dro o leiaf. Mae'r dirgelwch hwnnw'n cael ei ddatrys wrth edrych ar Gyfrifiad plwyf Llanllyfni. Roedd John Owen yn aros gydag un o'r rhai oedd yn gwerthu ei goffi, sef John Jones, Tal-y-sarn, yr oedd ei wraig Fanny (neu Frances) yn cadw siop. Ac mae'r cyfrifiad yn nodi ei fod yn hanu o Nefyn, ei fod yn 31 oed, a'i fod yn fab yng nghyfraith i John Jones a Frances. Yr oedd Ann Owen felly'n ferch i John Jones ac yn hanu o blwyf Llanllyfni.

Mae'r darlun hyd yna'n ddigon clir, ond mae manylion gweddill y preswylwyr yn y tŷ'n ddiddorol iawn. Mae'n amlwg mai Cymry oedd pawb, a bod busnes gweddol lewyrchus yn mynd rhagddo yn y cartref. Roedd gan Ann (ac mae'n rhaid, John Owen) ddau o blant: John, 2 oed, a aned yn Spittalfields (ardal o Lundain nid nepell o Hoxton); a Jane E. Owen, a aned yn Llanllyfni. Yn byw efo'r teulu roedd Richard Jones, 15 oed, brawd Ann Owen - hwnnw wedi ei eni yn Llandwrog; Thomas Jones, 15 oed, brawd yng nghyfraith Ann, a aned yn Llanllyfni; Ann Williams, y forwyn, 19 oed, eto o Lanllyfni; a fforman yn gweithio i Ann yn y busnes coffi, David Roberts, 26 oed, a aned yn Llandwrog. Dyna deulu felly o Uwchgwyrfai wedi setlo yn Llundain a denu ffrindiau, perthnasau a chydnabod atynt.

Ond yr oedd un person arall yn byw neu'n aros yn y tŷ y noson honno. Robert Owen, gŵr gweddw oedd yn dad i Ann yn ôl ffurflen y Cyfrifiad. Gŵr 54 oed ydoedd, ac roedd cyfrifwr y Cyfrifiad wedi ffrwcsio efo'r holl enwau Cymraeg o bosib, gan fod ei blwyf genedigol wedi ei nodi'n bur aneglur, rhywbeth fel "Llanfingall", ond yn sicr yn Sir Gaernarfon. Tybed y gallai hynny olygu Llanfihangel-y-Pennant? Roedd Robert Owen yn 54 oed, sef wedi ei eni oddeutu 1797. Nodwyd ei alwedigaeth fel Gweinidog ("minister") Capel Jewin Crescent. Gwyddwn yn barod mai John Jones oedd tad Ann. Yn aros gyda John Owen yn nhŷ teulu ei wraig yn Nhal-y-sarn, yr oedd John Owen arall, a alwyd yn "ymwelydd" (visitor), 53 oed (hynny yw, wedi ei eni oddeutu 1798) ac yn hanu o Lanllechid. Fe#' disgrifiwyd fel pregerthwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Tybed ai'r Robert Owen a restrir yn Wenlock Street a John Owen a restrir yn nŷ Tal-y-sarn oedd yr un un, a cyfriwr Shoreditch wedi gwneud camgymeriad - ond os felly pam fod y ddau set o fanylion yn wahanol, y ddau wedu ymddangos ar ddogfennau'r Cyfrifiad, a manylion y ddau mor debyg.

Hyd yma, ni lwyddwyd i ganfod John Owen, dyn y coffi mewn cyfrifiadau eraill. Ac mae'r dirgelwch ynglŷn â'r Robert Owen yn Wenlock Street yn parhau. Yn wir, roedd yna Robert Owen o Ddyffryn Nantlle'n flaenor yng Nghapel Jewin trwy gydol yr 1840au, sef Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia), gŵr a aeth yn weinidog ar Jewin - ond nid cyn 1859. Roedd hwnnw'n fab Ffridd Baladeulyn yn Nyffryn Nantlle, ond cafodd ei eni ym 1803, ac felly roedd tad Ann chwe mlynedd yn hŷn nag ef, a bwrw nad oedd cymysgu dyddiadau. Roedd yn gyndyn o fynd yn ordeiniedig, gan ddewis parhau tan 1859 i weithio fel addurnwr tai, ac felly pam y byddai'n honni ei fod yn weinidog ym 1851. Ac roedd wedi priodi ag Ellen, merch o'r Bala, ym 1832, a honno'n dal yn fyw, ac felly nid oedd yn ŵr gweddw pan wnaed y Cyfrifiad ym 1851. Fel ateb terfynol i hyn, gellir edrych ar ffurflenni Cyfrifiad St Sepulchre, Finsbury lle gwelir fod yr Eryron yn byw gydag Ellen a'i blant yn 14 Charterhouse Lane.[9]Gall;wn fod yn hyderus felly mai tad Ann oedd John Jones. Tybed ai cael ei ddrysu efo sgwrs am holl gysylltiadau teulu Owen â'rw einidogaeth oedd y cyfrifwr yn Llundain.

Nid oedd y teulu'n dal yn 55 Wenlock Street ym 1861. Dirgelwch felly yw i ble'r aeth y teulu, a beth a ddigwyddodd i'r busnes ac i John Owen ei hun. Gwyddwn, beth bynnag, ei fod wedi marw cyn 1891, gan fod Ann Owen wedi bod yn byw ym Mryn Afon, Tal-y-sarn a'i bod wedi marw fis Hydref 1892 yn 68 oed.[10] Ni cehir cofnod ohoni yno yng nghyfrifiadau 1871 nac 1881, ond ym 1891 nodwyd ei bod yn wraig weddw, ac yn ngweithio fel masnachwr blawd.[11]

Trwy hap, daeth 55 Wenlock Street i amlygrwydd eto ymhen bron i ganrif. Fe'i chwalwyd gan fom Almaenig ar noson gyntaf bomio Llundain ym 1940, a dynes oedd yn byw yno oedd y cyntaf o'r miloedd o Lundeinwyr i gael eu lladd gan fomiau yn ystod y rhyfel.[12]



Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, erthygl ar History of Coffee a'r cyfeiriadau a geir yno [1], cyrchwyd 13.1.2026
  2. Carnarvon and Denbigh Herald, 2.2.1850, t.1
  3. Yr Amserau, 29.5.1850, t.1
  4. Carnarvon and Denbigh Herald, 7.9.1850, t.1
  5. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851
  6. Cyfeiriadur Swyddfa'r Post Llundain, 1852, t.911
  7. Yr Amserau, 8.2.1854, t.4
  8. Cyfrifiad Shoreditch, Llundain, 1851
  9. Y Bywgraffiadur Ar-lein, erthygl ar Robert Owen,[2] ,cyrchwyd 14.1.2026; Cyfrifiad Finsbury, 1851
  10. O. Llew Owain, Cofiant Mrs Fanny Jones, (Machynlleth, 1907), t.80
  11. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91
  12. Gwefan Blitz Incidents, [3], cyrchwyd 14.1.2026