Ffeiriau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Y Ffôr Chwefror 20, Ebrill 12, Medi 10, Hydref 21, y dydd Iau cyn dydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr - y rhain i gyd yn ffeiriau gwerthu ceffylau, gwartheg a defaid. | Y Ffôr Chwefror 20, Ebrill 12, Medi 10, Hydref 21, y dydd Iau cyn dydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr - y rhain i gyd yn ffeiriau gwerthu ceffylau, gwartheg a defaid. | ||
Os | Os oedd y dyddiadau hyn yn digwydd syrthio ar ddydd Sul, cynhelid y ffair ar y diwrnod cyn neu wedi'r Saboth. Erbyn hyn, yr unig ffair draddodiadol a gynhelir o fewn ffiniau'r cwmwd yw [[Ffair Llanllyfni]] a gynhelir ar yr hen ddyddiad, Gorffennaf 6. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Fersiwn yn ôl 11:19, 6 Ionawr 2025
Cynhaliwyd ffeiriau mewn llawer o'r pentrefi yn y sir, nid yn gymaint fel cyfrwng diddanu fel sydd heddiw, ond fel cyfle i'r trigolion lleol brynu nwyddau nad oedd fel rheol ar gael ond yn y trefi; prynu a gwerthu anifeiliaid; ac (ar ddiwedd y tymor amaethu, tua ail wythnos Tachwedd) fel cyfle i gyflogi gweision a morynion ffermydd (neu i chwilio am waith). Byddai cytundeb am flwyddyn rhwng meistr a gwas fel rheol, a dyma oedd y cyfle i'r naill neu'r llall benderfynu chwilio am was newydd neu le gwell.
Tua diwedd y 19g cynhelid y ffeiriau canlynol yn Uwchgwyrfai (neu ger ei ffiniau):[1]
Betws Garmon Medi 17
Clynnog Fawr Mai 12, Tachwedd 10 (ffair gyflogi)
Llanllyfni Ebrill 11, Gorffennaf 6, Awst 11, Medi 19, Hydref 20
Pen-y-groes Mai 21, Mehefin 27, Awst 11, Medi 22, Tachwedd 8 (ffair gyflogi)
Y Bontnewydd Mai 9, Tachwedd 7 (ffair gyflogi)
Y Ffôr Chwefror 20, Ebrill 12, Medi 10, Hydref 21, y dydd Iau cyn dydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr - y rhain i gyd yn ffeiriau gwerthu ceffylau, gwartheg a defaid.
Os oedd y dyddiadau hyn yn digwydd syrthio ar ddydd Sul, cynhelid y ffair ar y diwrnod cyn neu wedi'r Saboth. Erbyn hyn, yr unig ffair draddodiadol a gynhelir o fewn ffiniau'r cwmwd yw Ffair Llanllyfni a gynhelir ar yr hen ddyddiad, Gorffennaf 6.