Henry Howell Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Irion y dudalen Dr Henry Howell Parry i Henry Howell Parry |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:24, 23 Medi 2024
Gwasanaethai'r Dr Henry Howell Parry (1835-1907) fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd wedi iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.[1]
Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd Gwilym Droed-ddu. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Y Bontnewydd. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg, a hynny am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.
Priododd Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, Rhostryfan ym 1873..[2] Roedd hi'n 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn y proffesiwn o hyfforddwr ceffylau.[3]
Erbyn 1891 roedd wedi ail briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.[4] Gadawodd eiddo gwerth £1952.[5]Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.