William Bifan, y Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffaiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> | Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffaiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> | ||
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, " | Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono." | ||
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod | Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdano'n cael braw: | ||
''William Bifan Druan'' | ''William Bifan Druan'' |
Fersiwn yn ôl 11:59, 13 Mehefin 2024
Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.
Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[1]
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm Bodaden, Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd W. Gilbert Williams amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono."
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdano'n cael braw:
William Bifan Druan Sydd wedi colli’i facsan Yn chwilio amdano ers mwy nag awr Yn nhalwrn mawr Bodadan.
Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o talwrn a parlwr ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.
Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,
Mae llawer math o erfyn I’w gael ar Werglodd Gudyn Ond torrir heddyw, gwneir yn wir Prydau ar dir Caerodyn.
Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.[2]