Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder pen y wal neu glawdd.

Dyma'r fan lle ganwyd [[William Bifan y Gadlys]], bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.
Dyma'r fan lle ganwyd [[William Bifan, y Gadlys]], bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.

==Ffynonellau==
==Ffynonellau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:53, 13 Mehefin 2024

Fferm ym mhlwyf Llanwnda yw'r Gadlys. Fe saif ar godiad tir rhwng Glan-rhyd a Rhos-isaf, (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw amddiffynfa llys. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle Hen Gastell, yn awgrymu y gallai fod cysylltiad wedi bod rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.

Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder pen y wal neu glawdd.

Dyma'r fan lle ganwyd William Bifan, y Gadlys, bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.

Ffynonellau

  • Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru, 1902 (Cyf. 23).
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (1960), t.225.