Odynau calch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:
  *Hen odyn [[Llyn-y-gele]]
  *Hen odyn [[Llyn-y-gele]]
  *[[Odyn Galch a Bwthyn y Foryd|Odyn galch y Foryd]] ger [[Y Foryd Bach]], sef aber [[Afon Gwyrfai]].
  *[[Odyn Galch a Bwthyn y Foryd|Odyn galch y Foryd]] ger [[Y Foryd Bach]], sef aber [[Afon Gwyrfai]].
Roedd Odyn Galch y FOryd yn weithredol erbyn 1814 os nad llawer cyn hynny.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgrau. Porth-yr-aur 6829 (11)</ref>


Erbyn 1914, nid oedd y map Ordnans yn cynnwys odynau Aberafon a Phorth Clynnog, tra bod odynau Tyddyn Hen, Tŷ Coch a Llyn-y-gele yn cael eu disgrifio fel "''old limekilns''". Mae'n debyg mai'r odyn olaf i fod yn weithredol yn Uwchgwyrfai oedd Odyn y Foryd, ond disgrifir honno hyd yn oed ar y map fel odyn nad yw'r gweithio, a hynny er ei bod wrth hen gei [[Y Foryd]].<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1914, cyhoeddwyd 1920</ref>
Erbyn 1914, nid oedd y map Ordnans yn cynnwys odynau Aberafon a Phorth Clynnog, tra bod odynau Tyddyn Hen, Tŷ Coch a Llyn-y-gele yn cael eu disgrifio fel "''old limekilns''". Mae'n debyg mai'r odyn olaf i fod yn weithredol yn Uwchgwyrfai oedd Odyn y Foryd, ond disgrifir honno hyd yn oed ar y map fel odyn nad yw'r gweithio, a hynny er ei bod wrth hen gei [[Y Foryd]].<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1914, cyhoeddwyd 1920</ref>

Fersiwn yn ôl 17:14, 19 Chwefror 2024

Mae olion nifer o odynau calch wedi eu dangos ar fapiau Ordnans a gyhoeddwyd tua 1889.[1] Roedd y rhain i gyd ar lan y môr, a'u diben oedd cynhesu calchfaen nes iddi droi'n bowdwr y gellid ei daenu ar y tir i'w dadasideiddio a'i wneud yn fwy ffrwythlon. Mae hyn yn arfer sydd yn dyddio'n ôl dros o leiaf dwy ganrif a hanner yn Uwchgwyrfai. Roedd yr odynau ar lan y môr, a hynny ger aber neu draeth gwastad, er mwyn derbyn y galchfaen oddi ar longau. Byddai glo i gynhesu'r odynau hefyd yn dod ar longau. Byddai'r rhain yn llongau gyda gwaelod gweddol fflat fel y gallent ddod at y lan ar ben llanw a setlo ar y traeth wrth i'r llanw fynd allan. Byddai'r glo'n dod naill ai o Falltraeth neu o ardal y Fflint, a'r calch naill ai o Sir Fôn neu ardal y Gogarth, gan nad oedd calchfaen ar gael yn nes na hynny.

Nodir chwech o odynau ar fapiau 1889, gyda thair yn cael eu galw'n "old limekilns", er na ddylid cymryd yn ganiataol bod y lleill yn dal i weithio. Mae'n debyg mai dal i sefyll a heb ddadfeilio oeddynt, gan fod dyfodiad y rheilffordd i Uwchgwyrfai tua 1867 wedi golygu y gellid mewnforio calch o ddwyrain Cymru'n rhatach, a hynny at seidins yn nes i ffermydd yr ucheldir lle oedd y mwyaf o angen am galch, gan mor asidig yw'r pridd yno.

Dyma'r odynau calch a ddangosir ar y mapiau Ordnans - er dim ond Odyn y Foryd sydd yn cael ei enwi. Fel arall, rhoddir enw'r fferm agosaf yn y rhestr isod.

*Hen odyn Aberafon, ger Gurn Goch
*Odyn Tyddyn Hen, ger Gurn Goch
*Hen odyn Tŷ Coch, Clynnog Fawr
*Odyn Porth Clynnog
*Hen odyn Llyn-y-gele
*Odyn galch y Foryd ger Y Foryd Bach, sef aber Afon Gwyrfai.

Roedd Odyn Galch y FOryd yn weithredol erbyn 1814 os nad llawer cyn hynny.[2]

Erbyn 1914, nid oedd y map Ordnans yn cynnwys odynau Aberafon a Phorth Clynnog, tra bod odynau Tyddyn Hen, Tŷ Coch a Llyn-y-gele yn cael eu disgrifio fel "old limekilns". Mae'n debyg mai'r odyn olaf i fod yn weithredol yn Uwchgwyrfai oedd Odyn y Foryd, ond disgrifir honno hyd yn oed ar y map fel odyn nad yw'r gweithio, a hynny er ei bod wrth hen gei Y Foryd.[3]

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiad cyntaf
  2. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgrau. Porth-yr-aur 6829 (11)
  3. Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1914, cyhoeddwyd 1920