Bryn Gwydion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym [[Pedwaredd Gainc y Mabinogi|Mhedwaredd Gainc y Mabinogi]]. | Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym [[Pedwaredd Gainc y Mabinogi|Mhedwaredd Gainc y Mabinogi]]. | ||
William Jones, Bryn Gwydion, a gyhoeddodd y gyfrol sylweddol ''Gweithiau Barddonol Eben Fardd'', ar y cyd â Howell Roberts ([[Hywel Tudur]]), rai blynyddoedd wedi marwolaeth Eben ym 1863 - nid oes dyddiad ar y gyfrol a argraffwyd gan gwmni J.K. Douglas, Steam Printers, Stryd Fawr, Bangor. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 13:52, 5 Chwefror 2024
Mae fferm Bryn Gwydion ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Roedd Bryn Gwydion a nifer o diroedd gerllaw yn wreiddiol yn rhan o ystâd Plas Newydd. Safle hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deulu Glynniaid Glynllifon a ddisgynnai o gangen Plas Newydd yn byw yma. Roedd Edmund Glynn (Bryn Gwydion) yn ynad heddwch adeg y Piwritaniaid, er nad oedd mor weithgar ar y fainc â'i gefnder o bell, Edmund Glynn o'r Llanwnda, Llanwnda. Tueddai Edmund Glynn y lle sillafu enw ei gartef fel "Brynygwdion".[1]
Aeres olaf hen deulu Bryn Gwydion oedd Ellen Glynn, Bryngwydion. Gwerthodd hi lawer o ystâd Bryn Gwydion, sef Eithinog Wen er mwyn codi arian i sefydlu elusen i godi elusendai i hen bobl plwyf Llandwrog. Mae Tai Elen Glynn yn sefyll hyd heddiw ger Cefn Hengwrt, Llandwrog.
Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.
William Jones, Bryn Gwydion, a gyhoeddodd y gyfrol sylweddol Gweithiau Barddonol Eben Fardd, ar y cyd â Howell Roberts (Hywel Tudur), rai blynyddoedd wedi marwolaeth Eben ym 1863 - nid oes dyddiad ar y gyfrol a argraffwyd gan gwmni J.K. Douglas, Steam Printers, Stryd Fawr, Bangor.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/1649-1660/amryw