Lisi Jones, Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bardd ac awdures oedd '''Lisi Jones''', Llandwrog (190?-1993). | Bardd ac awdures oedd '''Lisi Jones''', [[Llandwrog]] (190?-1993). | ||
Merch i chwarelwr yn [[Chwarel | Merch i chwarelwr yn [[Chwarel Cilgwyn]]. Roedd eu cartref yn [[Y Fron]] ac adwaenid hi fel Lisi Jones, Llandwrog, erbyn iddi gyhoeddi ei gwaith. [Mae Y Fron yn enw arall ar ''Llandwrog Uchaf''.] | ||
==Teulu== | ==Teulu== | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
==Gwaith== | ==Gwaith== | ||
Bu’n gweini yn Lerpwl am gyfnod byr. Dan ddylanwad Mudiad Addysg y Gweithwyr a chyrsiau haf mewn amrywiol golegau cafodd swydd yn Swyddfa Addysg Sir Gaernarfon a’i phenodi yn Ysgrifenyddes Trefnydd Ieuenctid Sir Gaernarfon – Goronwy Roberts hyd at 1945, pan etholwyd ef yn A.S., ac wedyn I.B. Griffith. Byddai hefyd yn cyfieithu i’r Cyngor | Bu’n gweini yn Lerpwl am gyfnod byr. Dan ddylanwad Mudiad Addysg y Gweithwyr a chyrsiau haf mewn amrywiol golegau cafodd swydd yn Swyddfa Addysg Sir Gaernarfon a’i phenodi yn Ysgrifenyddes Trefnydd Ieuenctid Sir Gaernarfon – [[Goronwy Roberts]] hyd at 1945, pan etholwyd ef yn A.S., ac wedyn I.B. Griffith. Byddai hefyd yn cyfieithu i’r Cyngor | ||
==Cyhoeddiadau== | ==Cyhoeddiadau== | ||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
''Grug Hydref'', Ail gyfrol o farddoniaeth, (Cyhoeddiadau Mei, tua 1978) | ''Grug Hydref'', Ail gyfrol o farddoniaeth, (Cyhoeddiadau Mei, tua 1978) | ||
''Dwy Aelwyd'', (Cyhoeddiadau Mei, 1984). Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron (Dyffryn Nantlle) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion. | ''Dwy Aelwyd'', (Cyhoeddiadau Mei, 1984). Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron ([[Dyffryn Nantlle]]) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion. |
Fersiwn yn ôl 18:02, 4 Chwefror 2024
Bardd ac awdures oedd Lisi Jones, Llandwrog (190?-1993).
Merch i chwarelwr yn Chwarel Cilgwyn. Roedd eu cartref yn Y Fron ac adwaenid hi fel Lisi Jones, Llandwrog, erbyn iddi gyhoeddi ei gwaith. [Mae Y Fron yn enw arall ar Llandwrog Uchaf.]
Teulu
Roedd ganddi gysylltiadau teuluol agos â’r Prifathro R. Tudur Jones, Prifathro Coleg Bala Bangor, a Bob Owen, Croesor.
Bardd
Dysgodd gynganeddu yn ifanc trwy ddilyn Yr Ysgol Farddol yn ei chartref. Bu’n aelod o un o dimau cynnar Ymryson y Beirdd yn y 1950au. Enillodd ar y Cywydd Ymgom rhwng y Trethdalwr a’r Casglwr Trethi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948. Yr englyn oedd ei hoff gyfrwng.
Gwaith
Bu’n gweini yn Lerpwl am gyfnod byr. Dan ddylanwad Mudiad Addysg y Gweithwyr a chyrsiau haf mewn amrywiol golegau cafodd swydd yn Swyddfa Addysg Sir Gaernarfon a’i phenodi yn Ysgrifenyddes Trefnydd Ieuenctid Sir Gaernarfon – Goronwy Roberts hyd at 1945, pan etholwyd ef yn A.S., ac wedyn I.B. Griffith. Byddai hefyd yn cyfieithu i’r Cyngor
Cyhoeddiadau
Swper Chwarel, Cyfrol o farddoniaeth, (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1974).
Grug Hydref, Ail gyfrol o farddoniaeth, (Cyhoeddiadau Mei, tua 1978)
Dwy Aelwyd, (Cyhoeddiadau Mei, 1984). Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron (Dyffryn Nantlle) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion.