Ysgoldy Pen'rallt (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif adeilad '''Ysgoldy Pen'rallt''' ar ben yr allt sydd yn arwain o'r Lôn Wen i lawr i bentref Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai. Nid yw wedi cael ei d...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Ysgoldy Pen'rallt i Ysgoldy Pen'rallt (MC) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:33, 18 Rhagfyr 2023
Saif adeilad Ysgoldy Pen'rallt ar ben yr allt sydd yn arwain o'r Lôn Wen i lawr i bentref Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel capel ers blynyddoedd lawer. Cangen ydoedd o Gapel Waunfawr, ac fe'i codwyd ym 1864 er mwyn hwylustod y gymuned fach o ffermydd ar ochr ddeheuol Afon Gwyrfai a llethrau Moel Smytho. Cafwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen, Pen'rallt. Cyn i'r capel bach gael ei godi, cynhelid ysgol Sul ym Mhen'rallt a chyn hynny yn ffermdy Gwredog Isaf.
Er mai prif ddiben oedd cynnal ysgol Sul yno ar gyfer plant ac oedolion, cynhelid gwasanaeth gyda phregeth unwaith y mis. Fis Hydref 1885, cafwyd arolwg gan swyddogion yr henaduriaeth, sef D. Davies (Tremlyn) a W. Gwenlyn Evans, a dyma eu hadroddiad:
Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan.[1]
Enw pobl leol ar yr ysgoldy hwn oedd Capel bach y mynydd..[2]