Gwredog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i [[Beuno Sant]]. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i [[Clynnog Fawr|Glynnog]]. Ar dir Gwredog y mae [[Ffynnon Beuno (Llanwnda)|Ffynnon Beuno]]. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol [[Afon Gwyrfai]] tua milltir a hanner o bentref [[Y Bontnewydd]]. | Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i [[Beuno Sant]]. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i [[Clynnog Fawr|Glynnog]]. Ar dir Gwredog y mae [[Ffynnon Beuno (Llanwnda)|Ffynnon Beuno]]. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol [[Afon Gwyrfai]] tua milltir a hanner o bentref [[Y Bontnewydd]]. | ||
Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) | Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) a Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i [[Ystad Lleuar]] ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 16g. Wedi hynny, bu'r ffermydd hyn yn rhan o [[Ystad Plas-yn-Bont]] ac wedyn yn eiddo i [[Ystad y Faenol]].<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref> | ||
Cafodd [[John Evans (fforiwr)|John Evans]], a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46</ref> Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd [[Owen Jones, Gwredog|Owen Jones]] a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58</ref> | Cafodd [[John Evans (fforiwr)|John Evans]], a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46</ref> Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd [[Owen Jones, Gwredog|Owen Jones]] a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58</ref> |
Fersiwn yn ôl 21:22, 4 Rhagfyr 2023
Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i Beuno Sant. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i Glynnog. Ar dir Gwredog y mae Ffynnon Beuno. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol Afon Gwyrfai tua milltir a hanner o bentref Y Bontnewydd.
Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) a Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i Ystad Lleuar ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 16g. Wedi hynny, bu'r ffermydd hyn yn rhan o Ystad Plas-yn-Bont ac wedyn yn eiddo i Ystad y Faenol.<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>
Cafodd John Evans, a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.[1] Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd Owen Jones a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .[2]
Ym 1841, ceid pedwar teulu’n byw yn nhai Gwredog: John Thomas, ffermwr 65 oed a’i deulu yng Ngwredog Tan’rallt; Thomas Owens, ffermwr 60 oed a’i blant yng Ngwredog Uchaf; John Davies, gwas fferm 40 oed a’i deulu hefyd yng Ngwredog Uchaf; Hugh Owens, ffermwr 69 oed a’i deulu yng Ngwredog Isaf; a William Lewis,75 oed, a’i ddau blentyn yng Ngwredog Bach. Ymhen 10 mlynedd, roedd gweddw John Thomas, Gwen, 64 oed, ei phlant a dau was yn byw yng Ngwredog Tan’rallt; Griffith Jones, 50 oed a’i deulu a Richard Owen (oedd yn chwarelwr) a’i deulu yntau yn byw mewn dau dŷ yng Ngwredog Uchaf; Thomas Williams, 44 oed, ei deulu a phedwar o weision yn byw yng Ngwredog Isaf; a Lewis Williams (mab William Lewis), 49 oed a’i wraig yng Ngwredog Bach. Mae’r cyfrifiad yn nodi maint y ffermydd hyn: Gwredog Tan’rallt yn 50 erw; Gwredog Uchaf yn 32 erw; Gwredog Isaf yn 100 erw; a Gwredog Bach yn 47 erw. Thomas Assheton Smith o’r Faenol oedd perchennog y ffermydd hyn, heblaw Gwaredog Bach, a oedd yn eiddo i Henry Rumsey Williams.[3]
Mae'n hysbys bod Gwredog Bach wedi ei gwerthu gan ystad Rumsey Williams ym 1871, a gwerthwyd Gwredog Uchaf gan Ystad y Faenol ym 1919.
Roedd Gwredog Isaf yn gartref i Gwilym Prichard a Claudia Williams, yr arlunwyr enwog, o 1980 hyd 1984 pan symudodd y cwpl i wlad Groeg, ac wedyn i Lydaw. Mae nifer o luniau o Gwredog Bach wedi'u paentio gan Gwilym Prichard yn y Llyfrgell Genedlaethol.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46
- ↑ Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58
- ↑ Map Degwm plwyf Llanwnda, 1841
- ↑ Gwefan Robert Meyrick [1] cyrchwyd 4.12.2023