Tafarn yr Afr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Tafarn yr Afr''' (neu'r "Goat" ar dafod leferydd y fro) yn Ffordd yr Orsaf, Pen-y-groes yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor yn y pentref heddiw (2...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Tafarn yr Afr''' (neu'r "Goat" ar dafod leferydd y fro) yn Ffordd yr Orsaf, [[Pen-y-groes]] yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor yn y pentref heddiw (2023). Mae' | '''Tafarn yr Afr''' (neu'r "Goat" ar dafod leferydd y fro) yn Ffordd yr Orsaf, [[Pen-y-groes]] yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor yn y pentref heddiw (2023). Mae'n sefyll mewn man oedd yn lle strategol hanner ffordd rhwng [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]] a'r [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|orsaf]] a hynny ar adeg pan oedd sawl bargen yn cael ei tharo dros beint. Er nad oes sicrwydd pryd yr adeiladwyd y dafarn, mae'n debyg y digwyddodd hynny ar ôl agor y rheilffordd, pan ddatblygwyd y rhan honno o'r pentref. Yn sicr, roedd wedi agor cyn 1892<ref>Archifdy Caernarfon, XQA/L/9/98</ref> ac ym 1903 adroddwyd yn y wasg fod cwmni Greenall Whitley wedi prynu'r lle. Yn y Sesiwn Drwyddedu y flwyddyn honno, a than bwysau oddi wrth y Mudiad Dirwest a oedd yn gwrthwynebu pob tafarn, gwrthododd yr ynadon adnewyddu trwyddedau tafarnau eraill Greenall Whitley ym Mhen-y-groes, sef [[Tafarn y Prince Llewelyn]] a [[Tafarn y Prince of Wales|Thafarn y Prince of Wales]] ynghyd â [[Tafarn Barmouth|Thafarn y Bermo]] yn [[Llanllyfni]].<ref>''Gwalia'', 10.3.1903, t.8</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:49, 2 Tachwedd 2023
Tafarn yr Afr (neu'r "Goat" ar dafod leferydd y fro) yn Ffordd yr Orsaf, Pen-y-groes yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor yn y pentref heddiw (2023). Mae'n sefyll mewn man oedd yn lle strategol hanner ffordd rhwng Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes a'r orsaf a hynny ar adeg pan oedd sawl bargen yn cael ei tharo dros beint. Er nad oes sicrwydd pryd yr adeiladwyd y dafarn, mae'n debyg y digwyddodd hynny ar ôl agor y rheilffordd, pan ddatblygwyd y rhan honno o'r pentref. Yn sicr, roedd wedi agor cyn 1892[1] ac ym 1903 adroddwyd yn y wasg fod cwmni Greenall Whitley wedi prynu'r lle. Yn y Sesiwn Drwyddedu y flwyddyn honno, a than bwysau oddi wrth y Mudiad Dirwest a oedd yn gwrthwynebu pob tafarn, gwrthododd yr ynadon adnewyddu trwyddedau tafarnau eraill Greenall Whitley ym Mhen-y-groes, sef Tafarn y Prince Llewelyn a Thafarn y Prince of Wales ynghyd â Thafarn y Bermo yn Llanllyfni.[2]